27/05/2026
Y wybodaeth ddiweddaraf am waith cynnal a chadw cylchol ar ffyrdd

Bydd gwaith cynnal a chadw cylchol yn cael ei gynnal ger Llanelwy a Rhuddlan ddechrau mis Mehefin.
Bydd gwaith torri gwair, strimio, casglu sbwriel ac ysgubo yn cael ei gwblhau ar Ffordd Ddeuol yr A525 rhwng Cylchfan Talardy a chylchfan Bryn Cwybyr ac ar yr A547 Ffordd Abergele, ar y dyddiadau sydd wedi’u nodi isod.
- A525 Talardy i KFC - Ffordd ar Gau - Dydd Llun, 1 Mehefin a Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2026
- A525 Ffordd Osgoi Rhuddlan - Ffordd ar Gau - Dydd Mawrth, 3 Mehefin
- A525 Cylchfannau Bryn Cwybr a Ffordd Derwen - Cau Lôn - Dydd Iau, 4 Mehefin
- A547 Ffordd Abergele i Gylchfan Borth i Ffin y Sir - Dydd Llun, 8 Mehefin
Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 7pm a 6am ac yn cymryd 3 noson i’w wneud. I sicrhau y cyflawnir y gwaith yn ddiogel, bydd yr A525 a’r A547 ar gau i gerbydau a cherddwyr ar y dyddiadau a’r amseroedd a nodir.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd ein timau priffyrdd a gwasanaethau stryd yn gweithio’n galed dros y cyfnod hwn i wella’r llwybrau hyn, a hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd a byddem yn ddiolchgar o’ch cydweithrediad a’ch amynedd dros y cyfnod hwn.
Bydd arwyddion ar gyfer y llwybr gwyro amgen i bob rhan o’r ffyrdd fydd ar gau.