26/05/2026
Sesiwn galw heibio gwirfoddolwyr Archifau yng Ngharchar Rhuthun
Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn eich archifau lleol? Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a helpu i ddiogelu hanes lleol pwysig?
Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn gwahodd aelodau o’r gymuned i sesiwn galw heibio ar gyfer gwirfoddoli yn yr archifau yng Ngharchar Rhuthun ddydd Gwener 5 Mehefin, lle gallwch chi alw heibio unrhyw bryd rhwng 10am a 12pm i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli cyffrous.
Bydd cyfle i ymwelwyr gwrdd â’r tîm Archifau, dysgu am brosiectau gwirfoddoli cyfredol, a dysgu sut y gallan nhw fod â rhan ymarferol yn y gwaith o ofalu am gasgliadau hanesyddol arbennig y rhanbarth a'u diogelu.
Mae'r gwasanaeth yn chwilio am unigolion brwdfrydig sydd â llygad graff am fanylder, sydd â medrusrwydd corfforol da, ac sy'n awyddus i gyfrannu at wasanaeth treftadaeth pwysig.
Pa un a ydych chi'n frwd ynglŷn â hanes lleol, yn awyddus i gael profiadau newydd, neu eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned, gallai’r cyfle hwn fod yn berffaith ar eich cyfer chi.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i’n helpu ni i gadw a rhannu hanes cyfoethog ein cymunedau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnig cyfle difyr i bobl gymryd rhan, dysgu sgiliau newydd a gweithio’n agos gyda’r casgliadau hanesyddol unigryw. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn treftadaeth neu hanes lleol neu ddim ond eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymuned, i ddod draw i’r sesiwn galw heibio i gael gwybod mwy.”
📅Dydd Gwener 5 Mehefin 2026
⏰Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10am - 12pm
📍Carchar Rhuthun, LL15 1HP
I gael rhagor o wybodaeth neu os ydych chi’n dymuno cysylltu â ni, ewch i’n gwefan yn https://www.newa.wales/ neu anfonwch e-bost at archives@newa.wales.