26/05/2026
Cabinet yn cefnogi prosiect gwres carbon isel Neuadd y Sir

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi camau cychwynnol y gwaith i wella effeithlonrwydd ynni yn Neuadd y Sir Rhuthun, yn ddibynnol ar lwyddiant y cais cyllid i Lywodraeth Cymru.
Cefnogodd Aelodau’r Cabinet y broses i sicrhau cyllid grant o Grant Gwres Carbon Isel Llywodraeth Cymru i gychwyn prosiect gwres carbon isel Neuadd y Sir.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o waith parhaus Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych i leihau defnydd ynni a chostau mewn adeiladau a gaiff eu rhedeg gan yr awdurdod lleol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019 a pharhau â’r gwaith i leihau ei ôl-troed carbon ei hun.
Mae'r tîm wedi gofalu am brosiectau ar draws adeiladau’r Cyngor yn cynnwys ysgolion, er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau carbon a chostau defnyddio dros y tymor hwy hefyd.
Adeiladwyd Neuadd y Sir dros 20 mlynedd yn ôl ac mae’n cyfrannu allyriadau carbon sy’n uwch nag sy’n angenrheidiol bob blwyddyn gan fod asedau allweddol yn yr adeilad bellach yn dynesu at ddiwedd eu hoes.
Bwriad y prosiect arfaethedig yw disodli’r boeleri nwy sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes ar y safle gyda phympiau gwres yr awyr, disodli’r Unedau Trin Aer, uwchraddio’r rheiddiaduron, pympiau gwres a’r system rheoli adeiladau.
Hefyd, fel rhan o’r gwaith arfaethedig, bydd ffenestri yn cael eu newid yn ffenestri modern sy'n effeithlon o ran ynni (yn arwain at tua hanner y golled gwres), stribedi drafft ac ardaloedd o inswleiddio nenfwd.
Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y prosiect yn golygu bod llai o ynni’n cael ei ddefnyddio, yn gwella’r amgylchedd gwaith, lleihau gwariant yn y dyfodol ar osod asedau newydd yn lle’r hen rai a lleihau allyriadau carbon tua 48.7 tunnell y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Dyma ddarn cyffrous iawn o waith sy’n cefnogi ymdrechion parhaus Cyngor Sir Ddinbych i leihau defnydd ynni a chostau, a gostwng olion troed carbon ar draws ein hystâd adeiladau. Bydd 90% o gost y prosiect yn cael ei ariannu gan gyllid grant allanol os byddwn yn llwyddiannus, sy'n fuddsoddiad mewnol gwych i'r Sir i gefnogi'r gadwyn gyflenwi. Bydd y cynigion yn y prosiect hwn yn darparu amgylchedd gweithio gwell i’r staff hefyd a helpu i ddiogelu Neuadd y Sir ar gyfer y dyfodol.”