Mai 2026

19/05/2026

Pobl ifanc a theuluoedd yn cael eu gwahodd i ddiwrnod cymunedol am ddim

Mae teuluoedd a phobl ifanc yng Nghorwen yn cael eu gwahodd i fwynhau diwrnod cymunedol am ddim yn ystod hanner tymor mis Mai, gan ddod â sefydliadau lleol, clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol ynghyd am ddiwrnod llawn hwyl o weithgareddau a chefnogaeth.

Bydd y digwyddiad yn digwydd:

  • Ddydd Gwener, 29 Mai
  • 10am – 3pm
  • Pafiliwn Chwaraeon Corwen, Lôn Las LL21 0DN

ac mae wedi'i gynllunio mewn partneriaeth â Theuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg, Ceidwaid Chwarae Sir Ddinbych, Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig a Chyngor Tref Corwen.

Bydd ystod eang o weithgareddau am ddim ar gael drwy gydol y dydd, gan gynnwys sesiynau tenis, pêl-droed, criced a bowlio a gyflwynir gan glybiau lleol. Bydd Little Learning Company hefyd yn cynnal gweithgareddau celf a chrefft, tra bydd Drosi Bikes yn cynnig sesiynau cynnal a chadw beiciau. Darperir bwyd a diodydd iach gan Teuluoedd yn Gyntaf.

Nod y digwyddiad yw dod â theuluoedd ynghyd, annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn cyfleoedd yn eu cymuned leol, a helpu trigolion i ddarganfod mwy am y gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd ar gael yn yr ardal.

Bydd gweithgareddau i deuluoedd a phlant iau yn rhedeg drwy gydol y bore a dechrau'r prynhawn. O 1pm – 3pm, bydd y ffocws yn troi at bobl ifanc 11+ oed, gan roi cyfle iddynt gwrdd â gweithwyr ieuenctid lleol, dysgu mwy am eu clwb ieuenctid lleol a darganfod y gweithgareddau a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Dinbych dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi'r digwyddiad cymunedol gwych hwn yng Nghorwen yn ystod gwyliau hanner tymor.

“Mae hwn yn gyfle gwych i deuluoedd a phobl ifanc ddod at ei gilydd, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, cwrdd â sefydliadau lleol a darganfod mwy am y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael yn eu cymuned.

“Byddwn yn annog unrhyw un yn yr ardal i ddod draw a mwynhau'r hyn sy'n addo bod yn ddiwrnod hwyliog, croesawgar a diddorol i bob oed.”

Os hoffech chi wybod mwy am ein Gwasanaethau Ieuenctid a'r hyn y gallant ei ddarparu i'n pobl ifanc, ewch i'n gwefan.

Comments