Mai 2026

20/05/2026

Penodi contractwr i ailwampio Ysgol Pendref

Mae’r contractwr ar gyfer prosiect ailwampio Ysgol Pendref bellach wedi’i benodi. Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Wynne Construction dan gontract dwy ran ar gyfer y gwaith dylunio a’r gwaith adeiladu.

Ysgol Pendref

Gyda Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Achos Strategol Amlinellol a Chabinet Cyngor Sir Ddinbych hefyd wedi cymeradwyo popeth sydd ei angen, bydd y cam dylunio bellach yn cychwyn – a fydd yn hysbysu edrychiad cyffredinol y gwaith ailwampio.

Sefydlwyd Ysgol Pendref yn 2012 ar ôl uno dwy ysgol gyfagos. Ers 2012 mae’r ysgol wedi bod yn defnyddio dau adeilad gwahanol ar un safle, ond nod y prosiect yma yw cyfuno’r holl ddysgu ac addysgu i un adeilad.

Yn ystod haf 2025 penodwyd Asiant Dylunio ac Adeiladu i gefnogi datblygiad prosiect Ysgol Pendref ac i reoli’r gwaith o gaffael contractwr i arwain y camau dylunio ac adeiladu i estyn ac ailwampio’r safle. Rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i symud ymlaen i’r broses gaffael ym mis Medi 2025.

Cyfanswm y swm a gytunwyd i gael ei ddyrannu i’r prosiect yw £11.74 miliwn.

Meddai Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych:

“Bydd y prosiect yma’n dod â buddsoddiad sylweddol i Ddinbych uchaf, gan gefnogi teuluoedd a phlant y gymuned. 

Mae’r cam nesaf yn gam yn nes at gael adeilad a chyfleusterau addysg o’r radd flaenaf ar gyfer disgyblion Ysgol Pendref.”

Meddai Nicola Griffiths, Pennaeth Ysgol Pendref:

“Mae’r cam nesaf hwn yn y prosiect yn gam nes at ddod ag adeilad a chyfleusterau addysg newydd o ansawdd uchel i ddisgyblion Ysgol Pendref.

Rwy’n edrych ymlaen at weld y dyluniadau’n cael eu datblygu ymhellach ar gyfer y prosiect.”

Comments