21/05/2026
Creu cynefin blodau gwyllt newydd i ddathlu Wythnos Blodau Gwyllt Sir Ddinbych

Mae disgyblion cynradd yn Y Rhyl wedi bod yn helpu i ddathlu’r ffaith fod ymgyrch fioamrywiaeth flynyddol yn dychwelyd.
Fe fu disgyblion Ysgol Llywelyn yn cydweithio gyda thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i helpu i baratoi ar gyfer Wythnos Blodau Gwyllt 2026 sy’n dechrau hanner tymor mis Mai.
Fe fu’r disgyblion ifanc yn gweithio ochr yn ochr â’r swyddogion i greu dôl blodau gwyllt newydd yn yr ysgol er mwyn eu helpu i ddysgu am y manteision a ddaw i fyd natur yn sgil y cynefinoedd hyn, a dyma thema Wythnos Blodau Gwyllt Sir Dinbych a gaiff ei chynnal yn fuan.
Yn gynnar yn ystod y flwyddyn hon fe fu’r disgyblion a’r tîm Bioamrywiaeth a Chefn Gwlad yn plannu dros 700 o goed o wahanol rywogaethau ar dir yr ysgol. Roedd y gwaith hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.
Nawr mae’r disgyblion wedi creu cynefin blodau gwyllt newydd sy’n cynnwys rhywogaethau blodau gwyllt sef moronen y maes, llygad llo mawr, clust y gath, gludlys coch, y feddyges las, y bengaled, crafanc brân y gweunydd, meillionen hopysaidd a gludlys cyffredin.
Bydd yr ardal yn helpu i ddarparu cefnogaeth i beillwyr lleol fel gwenyn a bydd hefyd yn darparu ardal awyr agored ychwanegol yn yr ysgol i ddysgu am natur.
Cafodd y blodau gwyllt eu darparu ar gyfer eu plannu gan blanhigfa goed Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy a’r Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.
Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Ellie Wainwright: “Roedd yn wych dychwelyd i Ysgol Llywelyn ar ôl gweithio gyda’r disgyblion i blannu’r holl goed. Mae’r ysgol yn angerddol iawn am gefnogi natur a bydd y prosiect diweddaraf hwn i greu’r ddôl yn helpu i greu cynefin gwych i’r holl anifeiliaid a’r planhigion ar dir yr ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Diolch yn fawr i ddisgyblion a staff Ysgol Llywelyn am ein helpu ni i groesawu Wythnos Blodau Gwyllt Sir Ddinbych 2026 drwy greu’r cynefin anhygoel hwn ar gyfer natur yn yr ysgol.”
“Mae’n wych i weld disgyblion ifanc yn rhoi help llaw i fyd natur yn lleol, mae eu cefnogaeth yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.”