Mai 2026

20/05/2026

“Gweld hyder yn datblygu’n annibyniaeth” - Gofalwr maeth yn Sir Ddinbych yn rhannu’r eiliadau hynny sy’n dangos datblygiad ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth

Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, trafod ei ddiwrnod, gofyn i wylio ffilm; mae'r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth yng Nghymru, maent yn symbol o un peth, sef datblygiad.

Rob

Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymddygiadau fel pryder, tynnu yn ôl yn emosiynol, ymateb mewn ffordd ddwys neu ei chael hi’n anodd dilyn rheolau.

Mae arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru wedi darganfod bod tua 80% o ofalwyr a holwyd wedi cefnogi plant wnaeth arddangos ymddygiadau fel hyn. Er y gall yr heriau hyn fod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd hefyd eu bod wedi sylwi ar ddatblygiadau ystyrlon o fewn y chwe mis cyntaf.

Rhannodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau arloesol hyn yn aml yn ymwneud â’r cyfnodau bach o gysylltiad, ond maent yn cynrychioli mwy na hynny: i blant mewn gofal, mae'n golygu eu bod wedi gwneud cynnydd, eu bod wedi dechrau teimlo'n ddiogel, eu bod wedi dechrau gwella, teimlo eu bod yn cael eu caru a’u cefnogi wedi trawma plentyndod.

O ganlyniad i brofiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93%) eu bod bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiad sy'n gysylltiedig â thrawma.

Caiff y canfyddiadau hyn eu rhyddhau cyn Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU sy'n digwydd bob mis Mai i godi ymwybyddiaeth o faethu. Mae thema eleni, 'Dyma yw Maethu', yn amlygu profiadau go iawn gofalwyr maeth a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel.

Mae Rob o Sir Ddinbych yn dweud bod ei benderfyniad i ddod yn ofalwr maeth wedi’i ddylanwadu’n fawr gan ei fagwraeth a’i fywyd teuluol ei hun. Gan dyfu i fyny gyda’i frodyr a’i chwiorydd, gyda’i dad yn chwarae rhan ganolog yn eu gofal o ddydd i ddydd, ac yn ddiweddarach dod yn rhiant i’w blant ei hun, datblygodd Rob y gwerthoedd, yr amynedd a’r ddealltwriaeth a’i arweiniodd i faethu.

Un o’r pethau mwyaf gwerthfawr iddo oedd gweld person ifanc yn ei ofal yn tyfu mewn hyder ac yn dod yn annibynnol.

“Mae gweld nhw’n mynd i’r coleg, yn codi eu hunain yn y boreau, yn dal y bws ac yn cymryd cyfrifoldeb drostyn nhw eu hunain bob dydd wedi rhoi balchder mawr i mi.

Y pethau bach sy’n bwysicaf — yr eiliadau bob dydd hynny sy’n dangos hyder ac annibyniaeth cynyddol — ac maen nhw’n rhoi sicrwydd i mi fy mod i wedi gwneud rhywbeth yn iawn.

Mae fy mhrofiad o faethu wedi bod yn llawn atgofion bythgofiadwy. Mae llawer o’r eiliadau hynny ymhlith y gorau yn fy mywyd, ac mae gwylio plentyn yn tyfu ac yn ffynnu yn rhywbeth sy’n anodd ei roi mewn geiriau — mae’n hynod ystyrlon ac yn hynod werth chweil.”

Dywedodd Rhiain Morrlle, Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Ddinbych:

“Rydym yn falch iawn o ofalwyr maeth fel Rob a’u teuluoedd. Mae maethu yn mynd ymhell y tu hwnt i ddarparu cartref diogel a sefydlog — mae’n ymwneud â meithrin ymdeimlad o berthyn a datblygu perthnasoedd cryf, cefnogol sy’n galluogi plant a phobl ifanc i ffynnu.

Mae straeon fel un Rob yn dangos pa mor bwerus y gall yr eiliadau pwysig bob dydd hynny fod — o gamau bach tuag at annibyniaeth i’r hyder sy’n tyfu dros amser.

Mae Wythnos Gofal Maeth yn gyfle i ddathlu’r eiliadau sy’n newid bywydau ac i gydnabod a diolch i’n cymuned faethu ymroddedig yma yn Sir Ddinbych am y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud bob dydd.”

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Sir Ddinbych, ewch i: sirddinbych.maethucymru.llyw.cymru

Comments