22/05/2026
Grŵp i fynd i’r afael â sbwriel morol ar draeth y Rhyl

Mae digwyddiad casglu sbwriel wedi’i drefnu i fynd i’r afael â sbwriel morol ar ran boblogaidd o arfordir y Rhyl y mis hwn.
Ar ôl ymdrin â’r traethau ger maes parcio Dwyrain Nova a thraeth Barkby ym Mhrestatyn, mae Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych yn trefnu digwyddiad ar gyfer ardaloedd arfordirol o gwmpas Pafiliwn y Rhyl.
Bydd y digwyddiad casglu sbwriel yn cael ei gynnal ar 27 Mai rhwng 2pm a 3pm. Mae croeso i’r rhai sydd eisiau cefnogi’r digwyddiad i ymuno â’r grŵp ym maes parcio Theatr y Pafiliwn y Rhyl erbyn 2pm.
Bydd y digwyddiad hwn yn y Rhyl hefyd yn cael ei gefnogi gan Cadwch Gymru'n Daclus a fydd yn cyflenwi rhywfaint o'r offer casglu sbwriel.
Gall sbwriel morol greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, sy’n atal llif y dŵr, ac sy’n arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.
Gall casglu sbwriel morol o’r traethau gefnogi amddiffynfeydd naturiol oherwydd gall traethliniau, twyni a dolydd morwellt gynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr.
Dywedodd Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Y tro hwn, yr ydym ni eisiau canolbwyntio ar y darn o’r promenâd wrth Bafiliwn y Rhyl gan ein bod ni’n gwybod bod mwy o sbwriel morol yn tueddu i ddod i’r golwg ar yr ochr hon a all gyfrannu at lifogydd lleol a gwneud niwed i’r amgylchedd a bywyd gwyllt.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Mae rheoli’r perygl o lifogydd yn lleol o ganlyniad i effaith sbwriel morol ar ein traethau yn hynod o bwysig i amddiffyn pobl rhag llifogydd. Mae hefyd yn llawer gwell i les ein trigolion a’r rhai hynny sy’n ymweld â’r ardaloedd hyn, a’r bywyd gwyllt a ganfyddir ar y traethau, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n credu y gallen nhw wneud gwahaniaeth i ymuno â ni i helpu.”
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â claudia.smith@denbighshire.gov.uk / 07785517398