Gorffennaf 2026

27/07/2026

Adnodd ar-lein newydd wedi’i lansio ar gyfer llifddorau arfordirol Sir Ddinbych

Mae adnodd ar-lein newydd wedi’i lansio i ddarparu gwybodaeth am system llifddorau arfordirol Sir Ddinbych.

Mae tîm Risg Llifogydd a thîm Gwe y Cyngor wedi creu adnodd ar-lein newydd i helpu preswylwyr ac ymwelwyr i ddeall sut mae’r system llifddorau yn gweithredu o’r Rhyl i Brestatyn.

Mae’r ardal hon wedi’i datblygu i helpu rhai sy’n cael mynediad at y promenâd i gerdded ac i wneud ymarfer corff rhwng y ddwy dref, i ganiatáu iddynt ganfod pryd fydd rhai llifddorau wedi cau o bosibl.

Mae’r adnodd ar-lein yn darparu gwybodaeth am rôl y llifddorau, sut cânt eu gweithredu, pryd fydd rhai ar gau oherwydd y tywydd a risg stormydd a map o leoliadau pob un.

Mae’r llifddorau arfordirol ar hyd cynllun amddiffynfeydd Prestatyn a’r Rhyl yn cael eu defnyddio i selio ardaloedd o amddiffynfeydd y môr sydd yn is er mwyn galluogi mynediad cyhoeddus i’n traethau.

Maen nhw’n gweithredu fel gorchuddion dros dro y gellir eu symud sydd wedi’u dylunio i atal llif dŵr o ymchwyddiadau stormydd, llanw uchel a llifogydd rhag effeithio ar gartrefi, busnesau a seilwaith arfordirol diamddiffyn sydd y tu ôl i’r amddiffynfeydd llifogydd ehangach.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Bydd yr adnodd ar-lein newydd hwn yn helpu pobl i ddeall yn well sut mae ein system llifddorau arfordirol yn gweithio a pham fod angen eu cau yn ystod cyfnodau o dywydd difrifol neu pan fo risg uwch o lifogydd o bosibl. Mae’n dod â gwybodaeth allweddol at ei gilydd mewn un lle, i gefnogi ein preswylwyr a’n hymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer cerdded ar hyd yr ardal hon wrth ein helpu i barhau i ddiogelu cymunedau arfordirol.”

Ewch i'r adnodd ar-lein newydd yma https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/amddifyn-yr-arfordir/giatiau-llifogydd-arfordirol.aspx

Mae arwyddion newydd yn mynd i gael eu gosod er mwyn tynnu sylw’n well at system llifddorau arfordirol y Cyngor hefyd.

 

Comments