17/07/2026
Cyngor Sir Ddinbych yn cychwyn gwaith ar welliannau teithio llesol yn Ninbych Isaf
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cychwyn ar waith i gyflwyno cyfres o welliannau teithio llesol yn Ninbych Isaf.
Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan grant o’r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol a’i nod yw lleihau nifer y teithiau byr a wneir bob dydd mewn cerbydau modur a chynyddu lefelau teithio llesol yn Sir Ddinbych.
Bydd y gwelliannau hyn yn creu llwybrau cerdded a beicio mwy diogel at gyfleusterau lleol allweddol ac yn galluogi pobl i wneud dewisiadau teithio iachach, gwyrddach a rhatach.
Bydd y gwaith i wella Teithio Llesol yn cychwyn ddydd Llun 20 Gorffennaf ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn yr hydref.
Bydd y prosiect yn cynnwys:
- Gwella diogelwch i gerddwyr ar gyffordd Rhodfa Clwyd a chyffordd Ffordd Ystrad.
- Uwchraddio’r groesfan bresennol i gerddwyr ar Ffordd Rhuthun i fod yn groesfan twcan ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
- Lledu’r troedffyrdd ar ffordd Rhuthun rhwng Rhodfa Clwyd a Ffordd Ystrad.
- Gwella'r fynedfa i faes parcio Hamdden Sir Ddinbych o Ffordd Ystrad, er mwyn creu mynediad sy'n fwy diogel ac yn fwy cyfeillgar i gerddwyr.
- Sylwch: bydd mynedfa’r maes parcio ar gau am tua phedair wythnos tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn, gan gychwyn ddydd Llun 20 Gorffennaf.
- Lledu’r droedffordd sy’n arwain at Ysgol y Parc er mwyn gwella diogelwch y plant sy’n teithio i ac o’r ysgol.
Meddai Pennaeth Ysgol y Parc, Liz Croft: “Yma yn Ysgol Fabanod y Parc, rydym wedi gwirioni gweld y buddsoddiad hwn yn cael ei wneud i wella’r ardal leol a mesurau diogelwch y ffordd o amgylch ein hysgol. Mae’r gwelliannau hyn yn dangos ymrwymiad i greu amgylchedd mwy diogel, iach a hygyrch i’n plant, ein teuluoedd a’r gymuned ehangach.
“Bydd y gwell cyfleusterau croesi yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddiogelwch cerddwyr, gan roi mwy o hyder i deuluoedd wrth gerdded i ac o’r ysgol, a bydd culhau Ffordd Rhuthun yn helpu gostegu traffig, gan greu amgylchedd mwy diogel i bawb sy’n teithio drwy’r ardal.
“Mae’r datblygiadau hyn yn cynnig cefnogaeth gref i weledigaeth Llywodraeth Cymru i gynyddu teithio llesol drwy annog mwy o blant a theuluoedd i gerdded, beicio a sgwtio i’r ysgol. Fel ysgol, rydym yn frwd dros hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a lleihau ein heffaith amgylcheddol, a bydd y gwelliannau hyn yn ein helpu i barhau i wreiddio’r gwerthoedd hyn ym mywyd bob dydd ein hysgol.
“Mae’r newidiadau hyn hefyd yn cydweddu’n agos â’r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig o ran helpu ein disgyblion i ddod yn unigolion iach a hyderus sy’n deall pwysigrwydd lles corfforol, diogelwch y ffordd, a gofalu am yr amgylchedd. Edrychwn ymlaen at gael gweld yr effaith gadarnhaol y bydd y gwelliannau hyn yn ei chael ar ein disgyblion, ein teuluoedd a’r gymuned am flynyddoedd lawer i ddod.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae cyflwyno cyfres o welliannau newydd i deithio llesol yn ychwanegiad gwych i Ddinbych. Mae teithio llesol yn creu llwybrau cerdded mwy diogel i’r defnyddwyr ffyrdd mwyaf agored i niwed – fel pobl hŷn a phlant – ac mae hefyd yn annog trigolion i leihau eu hôl troed carbon drwy ddewis cerdded yn hytrach na gyrru dros bellteroedd byr.
Mae'r cyngor yn ymddiheuro am unrhyw drafferth y gallai’r gwaith hwn ei achosi, ac yn diolch i drigolion am eu hamynedd wrth gwblhau’r gwelliannau pwysig hyn.
I ddysgu mwy am deithio llesol, ewch i’r dudalen Teithio Llesol ar ein gwefan.