21/07/2026
Coeden ‘siaradus’ yn cael bywyd newydd yn Sir Ddinbych

Mae gwaith ar y gweill i ddarparu cnwd o goed ‘siaradus’ er mwyn helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd ar dirwedd Sir Ddinbych.
Mae planhigfa coed lleol Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy wedi lansio prosiect i warchod coed aethnen.
Caiff planhigfa goed y Cyngor ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Mae staff y blanhigfa’n gweithio i gynyddu niferoedd rhywogaethau o goed, yn cynnwys poplys du, cerddin gwyllt a deri trwy gasglu hadau o’r ardal leol i’w tyfu.
Rŵan, maen nhw’n troi eu golygon at dyfu aethnenni – coed sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n helpu i secwestru carbon a hefyd yn creu canopïau trwchus i oeri’r tir o’u hamgylch.
Yn llên gwerin yr Alban, mae’r coed wedi ennill yr enw ‘tafodau’r merched’ gan eu bod yn ‘siaradus’ iawn oherwydd sŵn siffrwd eu dail. Roedd cred hefyd fod plannu un yn agos at eich cartref yn eich gwarchod rhag lladron.
Mae aethnenni’n rhywogaeth arloesi hollbwysig sydd wrth fodd afancod, a bydd coed sydd wedi’u tyfu yn y blanhigfa’n cefnogi Prosiect Afancod Sir Ddinbych ar y Warchodfa Natur ger Green Gates.
Mae’r coed hefyd yn cynnal amrywiaeth eang o fioamrywiaeth fel coed ynn a derw ac maent yn gallu goroesi am filoedd o flynyddoedd. Mae’r gwreiddiau a dail sydd wedi syrthio hefyd yn gallu gwella pridd anffrwythlon a sefydlogi glannau afonydd, sy’n helpu i reoli llifogydd.
Er mwyn cynyddu nifer y coed, mae’r tîm yn defnyddio dull lluosogi llystyfol gan glonio o’r un system wreiddiau, sy’n ddull sydd wedi’i seilio ar ymchwil, gan fod y coed wedi dod i gynhyrchu llai a llai o hadau dros amser o ganlyniad i dywydd gwlypach ym Mhrydain. Mae angen i fisoedd y gwanwyn a’r haf fod yn boeth a sych er mwyn iddynt hadu.
Mae toriadau o’r coed yn cael eu plannu mewn bocsys; mae’r rhain wedyn yn cael eu cadw dan babell luosogi ar dymheredd a lleithder penodol. Mae’r twf yn cael ei fonitro nes mae’r coed yn ddigon mawr i’w symud i botiau.
Eglurodd Keegan Blazey, Swyddog yn y Blanhigfa Goed: “Mi ges i a fy nghydweithiwr, Sam Brown, hyfforddiant gan Dr Jenny Wong ar luosogi a chadwraeth aethnenni ym Mhrydain. Fe wnaethom ni’r toriadau o’r gwreiddiau ym mis Mawrth heb fawr ddim cyfarpar, gan obeithio y byddai’r tywydd o’n plaid ni.
“Yn ffodus iawn, mae wedi bod yn ddigon cynnes i allu tyfu’r toriadau, er ein bod wedi colli rhai yn sgil pyliau o wres mawr dros y penwythnos ac oherwydd clefydau ffyngol, i raddau helaeth oherwydd gormod o awyr iach neu ddim digon.
“Er hynny, ar ôl mireinio ambell beth, rydyn ni wedi llwyddo i gael tua 90 o doriadau, sydd bellach wedi tyfu i fod rhwng 20–60cm, a tua 25 o eginblanhigion (20–40cm). Amser yw’r prif ffactor i ni, ond rydyn ni’n eitha’ dygn ac fe fyddwn ni’n dal ati.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni’n falch iawn o’n tîm yn y Blanhigfa Goed am roi bywyd newydd i’r prosiect yma i hybu coed aethnen yn y sir. Bydd cynyddu eu niferoedd nhw’n ein helpu i frwydro yn erbyn elfennau o newid hinsawdd a hefyd yn rhoi cyfle i’r goeden ffynnu yn Sir Ddinbych unwaith eto.”