13/01/2026
Partneriaeth bwyd lleol yn derbyn cydnabyddiaeth fel enghraifft o arfer da wrth lansio gwefan newydd
Mae partneriaeth bwyd lleol sy’n cynorthwyo i greu system fwyd sy’n fwy cynaliadwy, gwydn a theg ar draws Gogledd Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru a Synnwyr Bwyd Cymru fel enghraifft o arfer da.
Mae Cogog (a enwyd drwy gyfuno Coginio a Gogledd) yn Bartneriaeth Bwyd Lleol yn Sir Ddinbych ac yn rhwydwaith sy’n uno grwpiau bwyd cymunedol, sefydliadau a phartneriaid lleol ledled Sir Ddinbych i gefnogi prosiectau sy’n gwella mynediad at fwyd iach, fforddiadwy a chynaliadwy. Mae’r aelodau’n cynnwys caffis cymunedol, rhandiroedd, pantrïoedd bwyd, oergelloedd cymunedol, tyfwyr a mentrau bwyd lleol eraill.
Mae Cogog wedi’u dewis fel astudiaeth achos i nodi effaith gadarnhaol partneriaethau bwyd lleol ar gymunedau, cynhyrchwyr a’r system fwyd ehangach. Mae’r bartneriaeth hefyd yn ffurfio rhan o astudiaeth achos prosiect cydweithredol ehangach Gogledd Cymru, gan gydnabod cryfder gwaith partneriaeth ar draws y rhanbarth.
Fel rhan o’r gydnabyddiaeth, mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi cynhyrchu adroddiadau a ffilmiau byr yn arddangos y gwaith sy’n cael ei gyflawni drwy Cogog a’r cydweithrediad ehangach ar draws Gogledd Cymru. Mae’r adnoddau’n tynnu sylw at sut y gall cydweithio rhwng sefydliadau, cymunedau a budd-ddeiliaid wella mynediad at fwyd iach, cynaliadwy ac sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol.
Daw’r gydnabyddiaeth wrth i Cogog ddathlu carreg filltir bwysig arall wrth lansio gwefan newydd, gan ddarparu presenoldeb ar-lein dynodedig ar gyfer y bartneriaeth a’i gwneud yn haws i breswylwyr, sefydliadau, a phartneriaid ddysgu mwy am eu gwaith.
Dywedodd Nikki Renshaw, Swyddog Datblygu Partneriaethau Cyngor Sir Ddinbych:
“Ers lansio Cogog ym mis Mawrth 2024, rydym wedi gweithio’n galed i gefnogi sefydliadau lleol sy’n gwneud gwir wahaniaeth yn eu cymunedau. Drwy’r bartneriaeth, mae dros £380,000 o gyllid grant wedi’i weinyddu i gefnogi ystod eang o fentrau bwyd lleol, gan helpu grwpiau i wella mynediad at fwyd iach, fforddiadwy a chynaliadwy.
“Rydym yn falch fod gennym dros 80 o grwpiau bwyd cymunedol yn aelodau o rwydwaith Cogog. Cryfder y bartneriaeth yw ei bod yn dwyn pobl ynghyd, rhannu gwybodaeth a chreu cyfleoedd i gymunedau gael mynediad at gyllid a chefnogaeth. Mae’n wych gweld effaith y prosiectau hyn ar draws y sir, ac rydym yn edrych ymlaen at ategu at y llwyddiant hwn yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae derbyn cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru a Synnwyr Bwyd Cymru yn gyflawniad gwych i bawb sy’n ymwneud â Cogog a’r bartneriaeth ehangach yng Ngogledd Cymru. Mae’n nodi ymrwymiad ac ymroddiad sefydliadau a chymunedau ar draws y rhanbarth sy’n cydweithio i greu system fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Mae lansio gwefan Cogog yn gam sylweddol ymlaen. Mae’n darparu platfform gwerthfawr i rannu gwybodaeth, dathlu straeon o lwyddiant ac annog mwy o bobl a sefydliadau i gyfranogi er mwyn cefnogi mentrau bwyd lleol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.”
Mae’r adroddiadau a’r ffilmiau’n darparu mewnwelediad i gyflawniadau ac uchelgeisiau’r bartneriaeth ac yn dangos sut mae cydweithio’n helpu i fynd i’r afael â heriau sy’n ymwneud â bwyd wrth gefnogi cymunedau ac economïau lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am Cogog a’u gwaith, ewch i'w gwefan.