16/07/2026
Cyngor yn cyflwyno £300 o Rybudd Cosb Benodedig am dorri Dyletswydd Gofal mewn cysylltiad â Gwastraff y Cartref

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflwyno £300 o Rybudd Cosb Benodedig i unigolyn am fethu â chydymffurfio gyda’u Dyletswydd Gofal cyfreithiol mewn cysylltiad â gwaredu gwastraff y cartref.
Mae’r cam gweithredu yma’n dangos ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu’n gyfrifol er mwyn amddiffyn yr amgylchedd a chymunedau lleol.
Daeth yr achos yn sgil ymchwiliad gan Dîm Trosedd Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor ar ôl i achos o dipio anghyfreithlon gael ei ganfod ger ardal chwarae ym Mhrestatyn.
Fe archwiliodd y swyddogion y gwastraff a chanfod tystiolaeth a’u harweiniodd i ganfod pwy oedd yr unigolyn oedd yn gyfrifol am y gwarediad, a’u bod nhw’n byw 125 milltir i ffwrdd.
Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad fod yr unigolyn wedi talu rhywun i gael gwared ar eu gwastraff cartref, ond nad oeddynt wedi gwneud y gwiriadau rhesymol i sicrhau bod yr unigolyn yn gludwr gwastraff cofrestredig. Yn sgil hynny, cafodd y gwastraff ei dipio yn anghyfreithlon ym Mhrestatyn.
Yn hytrach nag erlyn yr unigolyn, cyflwynodd y Cyngor £300 o Rybudd Cosb Benodedig am dorri gofynion Dyletswydd Gofal mewn cysylltiad â gwastraff y cartref.
Mae gan breswylwyr Ddyletswydd Gofal cyfreithiol tra’n gwaredu gwastraff y cartref. Mae hyn yn golygu cymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff yn cael ei basio i unigolyn awdurdodedig neu gludwr gwastraff cofrestredig ac y bydd yn cael ei waredu’n gyfreithiol.
Dylai unrhyw un sy’n talu rhywun arall i waredu eu gwastraff ofyn i gael gweld prawf eu bod wedi Cofrestru i Gludo Gwastraff a chadw manylion pwy a’i casglodd. Gallai methu â gwneud hyn arwain at gamau gorfodi os canfyddir yn nes ymlaen bod y gwastraff wedi cael ei dipio anghyfreithlon.
Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Trosedd Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:
"Rydym eisiau atgoffa pawb fod ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff cartref yn cael ei basio i gludwr gwastraff awdurdodedig. Mae tipio anghyfreithlon yn achosi niwed sylweddol i’n hamgylchedd, mae’n costio arian y trethdalwyr i’w glirio ac mae’n effeithio ar safon bywyd yn ein cymunedau.
“Mae’r achos yma’n dangos does ots lle mae rhywun yn byw, os ydi’r dystiolaeth yn arwain yn ôl at y rhai sy’n gyfrifol am fethu yn eu Dyletswydd Gofal, byddwn yn ymchwilio’n drylwyr ac yn defnyddio’r pwerau gorfodi sydd ar gael i ni.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein neges yn glir: ni fydd tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn anghyfrifol yn cael ei oddef yn Sir Ddinbych. Byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n cyfrannu at drosedd amgylcheddol ac yn gweithio i gadw ein Sir yn lân ac yn ddiogel i bawb."
Er mwyn gwirio a ydi unigolyn neu fusnes wedi cofrestru i gludo gwastraff yn gyfreithiol, ewch i wefan Cofrestr Cludo Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i chi drosglwyddo eich gwastraff.
https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/check-for-a-permit-licence-or-exemption/?lang=cy