Gorffennaf 2026

13/07/2026

Dolydd Prestatyn yn croesawu preswylydd newydd am y tro cyntaf

Mae preswylydd newydd wedi dod o hyd i gartref am y tro cyntaf yn nolydd blodau gwyllt Prestatyn. 

Mae Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn arolygu oddeutu 66 erw o ddolydd sy’n rhan o’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt.

Mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn cynnal ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn cefnogi lles cymunedau ledled y sir.  Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Yn y ddôl yn Bastion Road, canfu’r tîm rhywbeth nas gwelwyd o’r blaen ar y safle, safle a ddatblygwyd gyda chymorth disgyblion Ysgol Bodnant yn 2023 pan fu iddynt blannu bron i 4000 o blanhigion blodau gwyllt a gafodd eu tyfu ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy. 

Fe wnaethant gofnodi tegeirian bera am y tro cyntaf erioed sy’n dangos bod y safle wedi dechrau aeddfedu ac mae’r dolydd ledled y sir yn gweithredu fel ‘priffyrdd’ ar gyfer planhigion a phryfed i ledaenu a hybu natur yn lleol. 

Meddai Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth:  “Mae dod o hyd i degeirian bera yn Bastion Road yn dangos, drwy ein rheolaeth a’n datblygiad parhaus o’r safleoedd hyn, eu bod yn awr yn gweithredu fel priffyrdd i blanhigion, pryfed, ac anifeiliaid allu symud rhyngddynt, gan gynyddu bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.”

“Mae cael tegeirian ar y ddôl benodol hon hefyd yn dangos bod cyflwr y pridd wedi aeddfedu i gefnogi math arbennig o ffwng mycorhisol sy’n helpu hadau tegeirian i egino a’u cefnogi wrth iddynt ddechrau tyfu.  Y gobaith yw y byddwn yn gweld mwy o degeirian bera y tymor nesaf yn lledaenu ar draws y ddôl hon gan ddarparu mwy o gefnogaeth ar gyfer natur yn lleol.  

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae dod o hyd i degeirian bera yn y ddôl ym Mhrestatyn yn wych gan ddangos pa mor bwysig yw’r prosiect hwn er mwyn ailsefydlu cynefinoedd sydd wedi’u difetha ers y 1930au.  Diolch i’n tîm Bioamrywiaeth sydd wedi bod yn cydweithio gyda gweithredwyr Gwasanaethau Stryd, rydym yn gweld y cysylltiadau rhwng ein dolydd a’r lleiniau er mwyn cynorthwyo i adfywio’r cynefin hwn sy’n cefnogi natur ledled Sir Ddinbych,”

Mae modd dysgu mwy am y Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yma 

 

 

Comments