28/07/2026
Cynaeafu hadau blodau gwyllt i helpu natur ffynnu ledled Sir Ddinbych

Mae gwaith yn mynd rhagddo i hybu dyfodol blodau gwyllt cynhenid Sir Ddinbych.
Mae timoedd Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio i gynhyrchu cymysgedd hadau lleol cynhenid i Sir Ddinbych er mwyn cefnogi’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor.
Mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn cynnal ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn cefnogi lles cymunedau ledled y sir. Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Mae gwaith cynaeafu hadau yn digwydd yn nolydd blodau gwyllt y sir sydd yn gyfoethog o ran rhywogaethau.

Gan ddefnyddio cynaeafwr brwsh wedi’i dynnu gan ATV, mae hadau cynhenid penodol i safle yn cael eu casglu drwy ddull effaith isel, gan na fydd y peiriant yn torri na difrodi’r llystyfiant yn ddifrifol.
Unwaith iddynt gael eu casglu, bydd y cymysgedd o hadau o’r safleoedd a ddewiswyd ar gyfer cynaeafu, yn cael eu defnyddio i helpu rhai o’r dolydd llai amrywiol, drwy hadu yn ystod cyfnod yr hydref.
Casglwyd hadau o ddolydd lleol y sir y llynedd gan eu hadu ar safle yn Ffordd Colomendy Dinbych nad oedd yn ffynnu. Mae’r tîm Bioamrywiaeth wedi nodi atgyfodiad y blodau gwyllt yn ystod arolwg yno'r tymor hwn.
Meddai Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Gall y safleoedd dolydd blodau gwyllt sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau, a grëwyd trwy ddod a glaswelltir amwynder a lleiniau trefol i reolaeth blodau gwyllt trwy dorri a chasglu tymhorol, helpu i wella ein dolydd llai amrywiol. Rydym yn cynaeafu hadau o ystod amrywiol o blanhigion, ac unwaith cânt eu hadu ar y safleoedd dewisol, gobeithio bydd trigolion yn gweld mwy o amrywiaeth y flwyddyn nesaf. Gan helpu i ddarparu adnodd cefnogi cryfach i beillwyr a bywyd gwyllt lleol hefyd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn brosiect pwysig ar gyfer adfer cynefinoedd sydd wedi’u difrodi’n ddifrifol ers y 1930au. Rwy’n gwybod bod y tîm Bioamrywiaeth, ynghyd â’n gweithwyr gwasanaethau stryd, wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i reoli a datblygu ein dolydd. Mae defnyddio safleoedd aeddfed i roi help llaw i safleoedd llai amrywiol, trwy’r gwaith hadu hwn yn dangos gwerth yr amser ac ymdrech mae pawb wedi ei roi i warchod natur trwy gydol y prosiect hwn.”