Gorffennaf 2026

20/07/2026

Lansio Sesiynau Misol ‘Cysylltu â Sgwrsio’ yng Ngorsaf VIBE Y Rhyl

Gwahoddir trigolion Sir Ddinbych i fynychu sesiwn ‘Cysylltu â Sgwrsio’ am ddim yng Ngorsaf VIBE yn Y Rhyl, sydd newydd agor. Nod y sesiwn yw helpu pobl i baratoi ar gyfer costau ynni ac aelwydydd sy'n codi cyn i'r biliau gynyddu yn ystod y gaeaf.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 23 Gorffennaf, a gall pobl alw heibio rhwng 2pm a 4pm yng Ngorsaf VIBE. ‘Cadw’n Gynnes, Gwario Llai’ yw’r cyntaf mewn rhaglen newydd o sesiynau misol, a gynhelir ar ddydd Mercher olaf pob mis.

Bydd y sesiynau hyn yn dod â sefydliadau lleol a gwasanaethau cymorth ynghyd i gynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chyfleoedd i drigolion gael cymorth mewn awyrgylch hamddenol a chroesawgar.

Mae’r sesiwn gyntaf hon yn canolbwyntio ar helpu pobl i gynllunio ar gyfer costau ynni sy'n codi, gan roi cyfle i’r rhai sy'n mynychu cymryd camau syml nawr i leihau effaith biliau uwch yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Bydd y rhai sy'n mynychu yn gallu arbed arian ar eu biliau, dod o hyd i fargeinion gwell, cael cyngor syml, a dysgu pa gymorth sydd ar gael iddynt.

Mae’r sefydliadau sydd wedi cadarnhau eu bod yn mynychu yn cynnwys Dŵr Cymru, Cyngor ar Bopeth a Cymru Gynnes, gyda disgwyl i wasanaethau lleol ychwanegol fod yn bresennol hefyd.

Mae’r digwyddiad yn agored i bawb a bydd yn cael ei gynnal fel sesiwn galw heibio am ddim; nid oes angen apwyntiad.

Dywedodd llefarydd ar ran VIBE:

“Mae’r digwyddiad hwn yn ymwneud â helpu pobl i gymryd camau ymarferol a chynnar i reoli costau bywyd sy'n codi. Drwy ddod â sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt ynghyd mewn un lle, rydym yn ei gwneud hi’n haws i drigolion gael cymorth a theimlo’n fwy parod ar gyfer misoedd y gaeaf.

“Mae lansio’r sesiynau misol hyn yn golygu y bydd y cymorth hwn yn parhau trwy gydol y flwyddyn, gyda chyfres o bynciau wedi’u cynllunio i ymateb i anghenion y gymuned leol.”

Cynhelir sesiynau yn y dyfodol ar ddydd Mercher olaf pob mis, gan gynnig mynediad parhaus at gymorth, cyngor a chyfleoedd sydd wedi'u teilwra i anghenion lleol.

Anogir preswylwyr i alw heibio a chael cymorth yn gynnar; bydd hyn yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a rheoli costau'r dyfodol yn well. Gall partneriaid sydd â diddordeb mewn cynnal sesiynau yn y dyfodol gael rhagor o wybodaeth drwy wefan Sir Ddinbych yn Gweithio.

Gwybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio:

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi'r rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu â Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan.

Comments