30/07/2026
Buddsoddiad mawr i ddod â mwy o gartrefi fforddiadwy a chyfleoedd busnes newydd i ganol tref y Rhyl
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cymryd cam sylweddol arall ymlaen wrth adfywio canol tref y Rhyl, gyda chynlluniau’n mynd rhagddynt i drawsnewid dau eiddo amlwg ar y Stryd Fawr yn gartrefi fforddiadwy ac unedau masnachol wedi’u hadnewyddu.
Mae’r Cyngor yn paratoi i benodi contractwr i gyflawni’r gwaith ailddatblygu yn 64 Stryd Fawr a 2–4 Ffordd Wellington, gan ddod â’r lloriau uchaf gwag yn ôl i ddefnydd fel cartrefi fforddiadwy modern ac ynni-effeithlon, tra hefyd yn adnewyddu’r unedau manwerthu ar y llawr gwaelod ar gyfer busnesau’r dyfodol.
Mae’r prosiect yn rhan o weledigaeth hirdymor y Cyngor i roi bywyd newydd i ganol tref y Rhyl drwy gynyddu nifer y bobl sy’n byw yng nghanol y dref, cefnogi busnesau lleol a chreu cymuned fwy bywiog a chynaliadwy.
Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen, bydd yr ailddatblygiad yn creu mannau masnachol deniadol ar gyfer busnesau bach, gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi’r economi gyda’r nos a chryfhau dyfodol hirdymor canol y dref. Bydd y cynllun hefyd yn darparu cartrefi ynni-effeithlon sy’n helpu i leihau allyriadau carbon wrth wneud defnydd o adeiladau presennol.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau:
“Mae’r datblygiad hwn yn un rhan yn unig o strategaeth y Cyngor i geisio adfywio canol trefi yn Sir Ddinbych ac mae’n garreg filltir gyffrous arall yn ein buddsoddiad parhaus yng nghanol tref y Rhyl. Trwy ddod â’r adeiladau amlwg hyn yn ôl i ddefnydd, rydym yn creu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen tra hefyd yn darparu mannau masnachol modern a fydd yn helpu i gefnogi busnesau lleol a denu mwy o bobl i ganol y dref.
“Mae prosiectau fel hyn yn dangos ein hymrwymiad i adfywio’r Rhyl mewn ffordd sy’n dod â budd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd cael mwy o bobl yn byw yng nghanol y dref yn helpu i greu cymuned fywiog a llewyrchus, gan wneud y defnydd gorau posibl o adeiladau presennol er budd cenedlaethau’r dyfodol.”
Mae’r datblygiad yn cefnogi Strategaeth Tai a Digartrefedd Cyngor Sir Ddinbych drwy gynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ac yn cyfrannu at Gynllun Corfforaethol y Cyngor drwy helpu i sicrhau bod digon o gartrefi o ansawdd da i ddiwallu anghenion lleol.
Disgwylir hefyd i’r cynllun ddarparu manteision ehangach i’r gymuned, gan gynnwys cefnogi cadwyni cyflenwi lleol yn ystod y gwaith adeiladu, gwella bioamrywiaeth, annog teithio llesol a gwella ymddangosiad y rhan bwysig hon o ganol tref y Rhyl.
Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn ddiweddarach eleni ar ôl cwblhau’r broses gaffael.