17/07/2026
Disgyblion yn cael cipolwg cyntaf ar estyniad a hwb cymunedol newydd Ysgol Bro Elwern
Mae disgyblion Ysgol Bro Elwern wedi cael cipolwg cyffrous ar ddyfodol eu hysgol, gan brofi taith o amgylch yr estyniad a'r hwb cymunedol newydd sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ar safle'r ysgol.

Dan arweiniad y partner adeiladu SWG, tywyswyd y disgyblion drwy'r datblygiad i ddysgu mwy am y broses adeiladu a chael cipolwg ar yr hyn y bydd y cyfleusterau gorffenedig yn ei gynnig. Rhoddodd yr ymweliad gyfle gwerthfawr i'r disgyblion archwilio rhannau allweddol o'r adeilad newydd, gan gynnwys y cyntedd cymunedol, y neuadd ac un o'r ystafelloedd dosbarth.
Mae'r gwaith adeiladu yn parhau i symud yn ei flaen yn dda gyda’r brif strwythur bellach yn ei le ac mae disgwyl i'r gwaith o osod y ffenestri gael ei gwblhau yn fuan.
Caiff y prosiect gwerth £2.7 miliwn ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru trwy ei grant Cyfalaf yr Iaith Gymraeg a Phrydau Ysgol am Ddim i ddarparu ystafell ddosbarth newydd a chegin o'r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol gynradd, ac mae'r canolbwynt cymunedol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU fel rhan o gyllid grant ar gyfer 10 o brosiectau cyfalaf sydd â'r nod o ddiogelu treftadaeth unigryw, lles a chymunedau gwledig Rhuthun.
Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd yr hwb cymunedol yn cynnig gofod amlbwrpas ar gyfer trigolion lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau. Bydd y cyfleuster yn cynnig ystafelloedd cyfarfod a neuadd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a chymunedol, gan greu cyfleoedd hefyd i sefydliadau allanol logi'r lleoliad. Bydd yr hwb yn cael ei oruchwylio gan Bwyllgor Rheoli ymroddedig sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r gymuned leol.
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Addysg, Plant a Theuluoedd: "Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar y prosiect pwysig hwn, a fydd yn darparu buddion parhaol i'r ysgol a'r gymuned ehangach. Mae gweld y disgyblion yn mynd ar daith o amgylch y safle ac yn deall sut mae eu estyniad a'r hwb cymunedol yn cael eu hadeiladu wedi bod yn brofiad amhrisiadwy iddynt. Edrychaf ymlaen at weld yr adeilad gorffenedig yn yr hydref."

Straeon perthnasol eraill:
Seremoni torri’r dywarchen yn nodi dechrau gwaith ar ganolfan gymunedol newydd
Cymeradwyaeth ar gyfer hwb cymunedol newydd yng Ngwyddelwern