21/07/2026
Gwaith cynnal a chadw’n dechrau ar ddolydd blodau gwyllt

Mae’r gwaith o dorri a chasglu gwair wedi dechrau ar draws dolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych yn dilyn cyfnod hir o dywydd sych y tymor hwn.
Mae tîm Bioamrywiaeth, tîm Gwasanaethau Stryd a gweithwyr Adfer Natur y Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio i dorri safleoedd penodol yn gynt na’r arfer, gan helpu i gynnal a chefnogi cynefinoedd y dolydd.
Wedi’i sefydlu yn 2019, nod Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yw adfer cynefinoedd blodau gwyllt cynhenid, creu mannau gwyrdd cysylltiedig a chefnogi lles cymunedol ym mhob rhan o’r Sir.
Mae’r prosiect wedi’i gefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.
Mae sawl rhywogaeth o flodau gwyllt wedi hadu’n gynharach eleni oherwydd y tywydd sych, felly fe fydd safleoedd penodol yn cael eu torri a’u casglu’n gynnar. Fe fydd ardaloedd sydd â rhywogaethau sy’n blodeuo’n hwyrach yn cael eu gadael er mwyn iddynt flodeuo a byddant yn cael eu torri, fel yr arfer, o 1 Awst ymlaen.
Mae cael gwared ar doriadau yn lleihau’r maethynnau yn y pridd, sy’n helpu blodau gwyllt cynhenid i dyfu’n gryfach a hau ar gyfer y tymor nesaf.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn dechrau’r gwaith torri a chasglu rŵan gan fod nifer o flodau eisoes wedi’u hadu oherwydd y tywydd sych, a bydd hyn yn helpu’r rhywogaethau yma i ffynnu a thyfu eto - gan ein helpu i gynnal a gwella’r cynefinoedd ar gyfer y flwyddyn nesaf.
“Mae’r gwaith yma’n bwysig i gryfhau’r cynefin hwn er mwyn cefnogi natur yn ogystal â’n lles, a hynny ar ôl colli bron i 97% o’n dolydd yn ystod y can mlynedd ddiwethaf.
“Wrth i fwy o flodau gwyllt ddychwelyd, byddant yn cynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau fwynhau’r ardal ac er mwyn cefnogi pryfed peillio sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.
“Mae ein dolydd blodau gwyllt ar gyfer preswylwyr a bywyd gwyllt i’w mwynhau rŵan ac i genedlaethau o breswylwyr Sir Ddinbych yn y dyfodol.”