Gorffennaf 2026

16/07/2026

Sesiynau chwarae wedi’u trefnu ar draws y sir dros wyliau’r haf

Mae gwasanaeth Ceidwaid Chwarae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhyddhau amserlen ‘Beth am Chwarae Allan’ yr haf hwn, sy’n cynnwys sesiynau chwarae mewn 20 o leoliadau ar draws y sir.

Mae’r sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ yn cynnwys cymysgedd o leoliadau ar draws gogledd a de’r sir. Maen nhw’n cael eu harwain gan blant, sy’n golygu y gall plant ddewis beth maen nhw’n ei wneud neu pa offer maen nhw am ei ddefnyddio’n rhydd.

Mae’r sesiynau hyn yn darparu chwarae mynediad agored cwbl hygyrch i blant yn eu cymunedau lleol a chynhelir sesiynau bore a phrynhawn trwy gydol gwyliau’r haf.

Byddan nhw’n rhedeg rhwng 20 Gorffennaf a 28 Awst a bydd sesiynau’r bore yn rhedeg rhwng 10:30am-12:00pm, a sesiynau’r prynhawn yn rhedeg rhwng 2:00pm-3:30pm.

Sesiynau dros yr haf

Mae’r sesiynau’n rhai mynediad agored, sy’n golygu bod croeso i blant fynd a dod, ond mae’n rhaid i blant dan chwech oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

Meddai Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae Sir Ddinbych:

“Mae nifer dda wedi dod i’r sesiynau ‘Beth am Chwarae Allan’ a gynhaliwyd hyd yma eleni. Rydym wedi cynyddu nifer y lleoliadau eleni o 10 i 20, gan gynnig mwy o gyfleoedd chwarae mewn mwy o leoliadau ar draws y sir.

Rydw i’n edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl i’n sesiynau unwaith eto dros yr haf.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’r sesiynau hyn yn rhai hwyliog am ddim ac fe’u cynhelir ar draws y sir yn ystod gwyliau’r haf.

Mae ‘Beth am Chwarae Allan’ yn cael eu cynnal mewn 20 lleoliad ar draws y sir yn ystod y bore a’r prynhawn, gan gynnig mwy o gyfle i deuluoedd allu mynychu.

Plant sy’n arwain y sesiynau, a gallant ddewis pa fath o chwarae fyddai’n well ganddyn nhw trwy gydol y sesiwn gyfan.”

Comments