10/07/2026
Gweithiwr gofal a chymorth dynodedig y Cyngor yn ennill gwobr anrhydeddus
Mae gweithiwr gofal a chymorth yng Nghyngor Sir Ddinbych wedi cael ei chydnabod â gwobr anrhydeddus Gofalwn Cymru am ei hymrwymiad rhagorol i wella bywydau pobl hŷn.
Cafodd Maxine Carr, sydd wedi gweithio yng Nghartref Gofal Ychwanegol Nant y Môr ers 12 mlynedd, ei henwi yn enillydd yng Ngwobrau Gofalwn Cymru, ar ôl i’r Dirprwy Reolwr Tîm, Rob Gilmour ei henwebu.

Cafodd Maxine ei chydnabod am yr effaith eithriadol mae wedi’i gael yn creu cyfleoedd i breswylwyr, teuluoedd a’r gymuned ehangach i ddod ynghyd drwy raglen amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.
O foreau coffi Macmillan a nosweithiau bwyd i fynd â thema, i ddathliadau Calan Gaeaf a phartïon siwmperi Nadolig, mae Maxine wedi bod yn arwain y gwaith o drefnu digwyddiadau sydd yn dod â phobl at ei gilydd ac yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.
Trwy weithio’n agos gyda busnesau lleol ac aelodau’r gymuned, mae hi’n sicrhau rhoddion a chefnogaeth arlwyo er mwyn sicrhau bod pob digwyddiad yn llwyddiant.
Meddai Rob Gilmour, Dirprwy Reolwr Tîm:
“Heb ddigwyddiadau Maxine, cyfleoedd cyfyngedig iawn fyddai gan nifer o breswylwyr i ryngweithio’n gymdeithasol. Nid trefnu digwyddiadau yn unig mae Maxine yn ei wneud, mae hi’n adeiladu pontydd, yn meithrin perthnasoedd ac yn gwella bywydau.”
Mae manteision gwaith Maxine i’w weld yng nghymuned Nant y Môr, gyda phreswylwyr, teuluoedd, cyfeillion, cymdogion a staff i gyd yn mwynhau’r awyrgylch croesawgar a chynhwysol mae hi wedi’i helpu i greu.
Dywedodd un preswylydd:
“Mae’r digwyddiadau wedi gwneud i mi ddod allan o’m cragen ac wedi rhoi hyder i mi gymdeithasu gyda phobl eraill.”
Tynnwyd sylw hefyd at lwyddiant y gweithgareddau yn ystod arolwg diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a roddodd sgôr rhagorol i’r gwasanaeth. Fe soniodd yr arolygwyr am frwdfrydedd y preswylwyr ar gyfer y rhaglen o ddigwyddiadau, gan nodi:
“Dywedodd pobl wrthym eu bod yn caru’r noson fwyd Tsieineaidd a’u bod yn edrych ymlaen at y nesaf.”
Ynghyd â’i gwaith yn trefnu digwyddiadau cymunedol, mae Maxine yn ymrwymedig i’w datblygiad proffesiynol ei hun. Fe fynychodd hyfforddiant ‘Making Sense: Care and Creativity’ yn ddiweddar ac mae hi wedi bod yn cael profiad mewn meysydd eraill o wasanaeth er mwyn datblygu ei gwybodaeth a’i sgiliau ymhellach i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Llongyfarchiadau i Maxine am y cyflawniad gwych hwn. Mae’r effaith gadarnhaol sydd ganddi ar drigolion, cydweithwyr a chymuned ehangach Nant y Môr yn amlwg iawn, ac mae’n wych gweld hyn yn cael ei gydnabod.”
Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:
“Fe hoffwn i longyfarch Maxine am ennill ei gwobr a diolch iddi am ei hymroddiad parhaus i gefnogi preswylwyr yng Nghartref Gofal Ychwanegol Nant y Môr.
Mae Maxine yn ymgorffori gwerthoedd Cyngor Sir Ddinbych ac mae hi’n dangos yr effaith cadarnhaol y mae gweithwyr gofal a chymorth yn ei gael yn ein cymunedau bob dydd.
Llongyfarchiadau iddi ar ei chyflawniad ardderchog.”