14/07/2026
Ystafell sy’n efelychu’r cartref yn rhoi hwb i sgiliau gweithredol
Mae’r cyngor wedi creu ystafell sy’n efelychu’r cartref, i ddarparu amgylchedd domestig realistig i breswylwyr allu ymarfer eu sgiliau ar ôl cyfnodau o ddigartrefedd, a galluogi i’r tîm therapi galwedigaethol gynnal asesiadau manwl.
Fe agorodd yr ystafell, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Estyn Allan (Reach Out) yn y Rhyl, ond sydd methu cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl, ym mis Mehefin, a bydd yn cael ei defnyddio gan nifer o wasanaethau’r cyngor o fewn y tîm amlddisgyblaeth.
Cegin
Mae’n cynnwys ystafell ymolchi, cegin, ystafell fyw ac ystafell wely, a gall yr ystafell sy’n efelychu’r cartref gael ei defnyddio gan Therapyddion Galwedigaethol ar gyfer asesiadau mwy manwl o anghenion trefniadau byw. Mae’r gegin hefyd yn cael ei defnyddio gan dîm atal digartrefedd y cyngor lle mae’n nhw’n addysgu sesiynau coginio wythnosol.
Ystafell fyw
Mae tîm teleofal y cyngor hefyd wedi gosod nifer o gymhorthion o fewn yr ystafell sydd yn gallu cynorthwyo asesiadau a gadael i breswylwyr ddod i arfer â’r dyfeisiau mewn amgylchedd un-i-un. Mae’r dechnoleg gynorthwyol yn cynnwys system a chortyn gwddf ‘lifeline’, synhwyrydd epilepsi, amserydd cegin sy’n gallu ‘siarad’ a synhwyrydd mwg.
Trwy gynnig amgylchedd diogel, taclus a thawel, mae’r ystafell yn cynnig canlyniadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn iddynt ddatblygu’r sgiliau gweithredol sydd eu hangen i fyw’n annibynnol.
Ystafell ymolchi
Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd:
“Mae’r ystafell unigryw hon wedi cael ei datblygu oherwydd y newid ym mhroffil y rhai sy’n cysylltu â thîm atal digartrefedd. Trwy ymarfer sgiliau a gweithio mewn amgylchedd un-i-un, rydym wedi canfod y gallwn helpu’r rhai sydd angen ein cefnogaeth, i sicrhau canlyniadau gwell unwaith y maen nhw’n cael tenantiaeth fwy parhaol.
Fe fydd ein tîm atal digartrefedd yn gweithio law yn llaw â’r tîm teleofal a therapyddion galwedigaethol er mwyn defnyddio’r gofod i gynnig asesiadau mwy manwl.
Mae’r gofod yn galluogi i ni weithio gyda’r rhai sydd â chyflyrau mwy cronig megis epilepsi i ddefnyddio’r dechnoleg gynorthwyol sydd ar gael mewn amgylchedd tawel sy’n cael ei reoli, lle gellir gofyn cwestiynau ar lefel un-i-un a helpu iddynt ddeall yn llawn sut y gall y dechnoleg eu cynorthwyo.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:
“Mae’r datblygiad yma wedi cael ei ddylunio i gael ei ddefnyddio gan nifer o wasanaethau’r cyngor o fewn y tîm amlddisgyblaeth.
Yn adnodd gwerthfawr a agorodd fis diwethaf, fe fydd hwn yn galluogi staff i helpu preswylwyr ennill sgiliau bywyd gwerthfawr a chynnal asesiadau manwl, un-i-un, ac mae nifer o sesiynau eisoes wedi’u cynnal yn y cyfleuster newydd.”