Gorffennaf 2026

21/07/2026

Partneriaeth yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi preswylwyr

Mae’r bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor ar Bopeth wedi mynd o nerth i nerth ers iddi ddechrau fwy na degawd yn ôl, gan helpu preswylwyr i drin cost barhaus pwysau byw a gwella eu lles ariannol.

Mae lleihau tlodi a chefnogi lles preswylwyr Sir Ddinbych yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn parhau i chwarae rôl hanfodol wrth gyflawni’r nod hwn, gan greu enillion ariannol sylweddol i breswylwyr wrth helpu i atal digartrefedd, lleihau tlodi tanwydd a chryfhau gwytnwch ariannol ar draws y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol Cyllid ac Archwilio:

“Rydym yn gwybod bod costau byw cynyddol yn parhau i roi pwysau sylweddol ar nifer o’n preswylwyr. Mae ein partneriaeth barhaus gyda Chyngor ar Bopeth yn fwy o lawer na helpu pobl i reoli argyfyngau uniongyrchol; mae’n golygu creu cymuned gryfach a mwy gwydn.

Trwy gydweithio, gallwn ddarparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar ddi-dor a chyngor cyfannol sy’n mynd i’r afael ag achosion gwaelodol caledi ariannol. Mae’r bartneriaeth yn cyfuno adnoddau’r Cyngor gydag arbenigedd Cyngor ar Bopeth ac mae’n ein galluogi i ddarparu cefnogaeth ragweithiol i breswylwyr, darparu cyngor ar ddyledion a budd-daliadau a chyfrannu’n uniongyrchol at ein blaenoriaeth gorfforaethol o greu Sir Ddinbych fwy teg, diogel a chyfartal.”

Dywedodd Julie Pierce, Prif Swyddog Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:

“Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad a rennir i wella canlyniadau i bobl ar draws Sir Ddinbych. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol a diduedd am ddim, ac rydym yn chwarae rôl hanfodol o ran ymyrraeth ac atal cynnar, gan helpu pobl i fynd i’r afael â phroblemau cyn cyrraedd pwynt argyfwng.

Yn ystod 2025-26, fe wnaethom sicrhau £10.26 miliwn mewn incwm ychwanegol i breswylwyr lleol a chefnogi pobl gyda mwy nag £11.2 miliwn o broblemau dyledion. Fe wnaethom hefyd gyflawni bron £347,000 mewn arbedion ynni a darparu cyngor am ynni i 729 o aelwydydd.

Mae’r canlyniadau hyn yn dangos y gwerth cymdeithasol ac economaidd sylweddol mae’r bartneriaeth hon yn ei roi i’n cymunedau. Ni fyddai hyn yn bosibl heb ein staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig, a hoffwn ddiolch yn bersonol i bob un ohonynt am eu hymrwymiad parhaus a’u gwaith caled.”

I gael rhagor o wybodaeth am Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, ffoniwch 01745 346775 neu ewch i www.cadenbighshire.co.uk.

 

Comments