01/07/2025
Grant nawr ar agor i helpu gyda chostau ysgol
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog rhieni a gwarcheidwaid cymwys i beidio â cholli’r cyfle i gael hyd at £200 drwy Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru. Mae’n bosibl rŵan gwneud cais am y grant ar gyfer blwyddyn ysgol 2025-2026.

Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu gyda chostau gwisg ysgol, gan gynnwys esgidiau, dillad ac offer chwaraeon ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol, gweithgareddau ysgol megis dysgu canu offeryn cerdd neu hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys pinnau ysgrifennu, pensiliau a bagiau yn ogystal â gliniaduron a chyfrifiaduron. Gellir defnyddio’r grant hefyd tuag at gost gwisgoedd ar gyfer gweithgareddau ehangach megis y Sgowtiaid a’r Geidiaid ac offer ar gyfer Gwobr Dug Caeredin.
Gall plant o deuluoedd sydd ar incymau is sy’n derbyn budd-dal penodol hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol. Mae hyn yn cynnwys yr holl ddysgwyr yn y dosbarth derbyn neu flwyddyn 1 i flwyddyn 11 (ac eithrio blwyddyn 7). Oherwydd y costau ychwanegol y gall teuluoedd eu hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion cymwys a fydd yn dechrau ym mlwyddyn 7.
Dywedodd Geraint Davies, Pennaeth Addysg, Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae’r Grant Hanfodion Ysgol, yn helpu i ostwng y baich ariannol ar deuluoedd wrth brynu gwisg ysgol ac offer, gan alluogi’r plant i fynd i’r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â’u cyfoedion.
Hyd yn oed os yw eich plentyn eisoes yn cael Prydau Ysgol am ddim, sydd ar gael i holl blant Ysgolion Cynradd, mae angen i chi wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol er hynny.
Mae’n hynod bwysig bod rhieni a gwarcheidwaid plant sy'n mynd o flwyddyn 6 i 7 yn gwneud cais am Brydau Ysgol Am Ddim a'r Grant Hanfodion Ysgol gan y bydd y cynnig Amddiffyn wrth Bontio yn dod i ben i’r plant hyn. Rydyn ni'n gwybod bod sicrwydd o bryd o fwyd iach bob dydd yn helpu gyda chanolbwyntio a dysgu yn yr ystafell ddosbarth a gwella iechyd a lles.”
Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer cyllid eleni yn agor ar 1 Gorffennaf ac yn cau ar 31 Mai 2026. Gall teuluoedd sy’n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, yn ogystal â’r Grant Hanfodion Ysgol, ddefnyddio’r un ffurflen gais ar-lein i ymgeisio am y ddau. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cysylltu’n rhagweithiol ag aelwydydd i roi gwybod iddynt a ydynt yn gymwys. Nid oes angen i unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais, i wneud cais eto.
Os yw eich plentyn yn mynd i ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein am grant trwy fynd i: www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/grantiau-ac-ariannu/grant-hanfodion-ysgol.aspx.