Gorffennaf 2025

09/07/2025

Ehangu Gwasanaeth Gofal Ail-alluogi a’r Tîm Gofal a Chymorth yn y sir

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn llawn cyffro i fod yn ehangu ei Dîm Gofal a Chymorth ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion drwy recriwtio naw o Ofalwyr Gofal a Chymorth newydd a fydd yn gweithio ledled y sir.

Nod Sir Ddinbych yw sicrhau Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a lliniaru ar rywfaint o’r gwasgfeydd ariannol y mae’r Cyngor yn ei wynebu.

Wedi cynnal ymgyrch recriwtio lwyddiannus yn gynharach eleni a phenodi saith o Weithiwr Cefnogi Ail-alluogi, mae’r Cyngor yn chwilio am ragor o aelodau staff i ymuno â’r tîm cyfeillgar a chefnogol.

Bydd y staff newydd yn cefnogi pobl y mae angen cymorth arnynt i adennill sgiliau i wneud gweithgareddau beunyddiol fel ymolchi, coginio prydau bwyd, gwisgo, symud o amgylch y cartref a mynd allan.

Gall fod ar bobl angen cymorth am amryw resymau, gan gynnwys adfer wedi bod yn sâl neu ddod adref o’r ysbyty. Gall y gefnogaeth hon bara cyn lleied ag wythnos neu ddwy ond gellir ei chynnig am hyd at chwe wythnos os oes angen. Yn ogystal â hynny, mae’r tîm yn cynnig cymorth hirdymor yn y cartref yn ôl yr angen.

Meddai Darylanne, Uwch-weithiwr Gofal a Chymorth yn y Cyngor:

“Mae ein timau’n cefnogi pobl sydd angen cymorth ar ôl bod yn yr ysbyty, neu efallai ar ôl bod yn sâl.

Rydyn ni’n darparu cerbyd pwrpasol i aelodau’r tîm fel nad oes rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu cerbydau personol wrth deithio o le i le. Darperir hyfforddiant trylwyr a digonedd o gefnogaeth i staff i'w helpu yn eu swyddi.”

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Ar ôl llwyddiant y gwaith ehangu ddechrau’r flwyddyn, rydyn ni’n awr yn bwriadu i ychwanegu naw o Weithwyr Gofal a Chymorth at ein tîm.

Mae ein timau’n gofalu am bobl ar hyd a lled y Sir bob dydd yn eu cartrefi eu hunain, sy’n golygu y gall preswylwyr fyw’n gyfforddus yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.

Mae ehangu fel hyn yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion gofal cymdeithasol ehangach a bydd yn golygu mwy o ofal i breswylwyr yn eu cartrefi eu hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae ein timau ar gael i bobl sydd newydd gyrraedd adref o’r ysbyty neu ar ôl cael triniaeth ac sydd angen pecyn cymorth wrth ddod i arfer â bywyd o ddydd i ddydd unwaith eto.

Mae’r gefnogaeth hon yn helpu i wneud y newid ychydig yn haws, ac mae ein tîm wrth law i helpu pobl i ailddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn eu cartref eu hunain.

Mae ein tîm yn gwneud gwaith anhygoel ledled y Sir ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu mwy o weithwyr Gofal a Chymorth i’n tîm.”

I gael gwybod mwy am y cyfleoedd cyffrous hyn a gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol, ewch i’n gwefan yma.

Comments