Gorffennaf 2025

01/07/2025

Sialens Ddarllen Yr Haf ‘Gardd o Straeon’ 2025

Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn gwahodd teuluoedd ar draws Sir Ddinbych i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 2025 Yr Asiantaeth Ddarllen, gan annog plant i archwilio’r cysylltiad hudolus rhwng adrodd hanes a’r byd naturiol, gan mai thema eleni ydi:  Gardd o Straeon - Anturiaethau mewn Natur a’r Awyr Agored.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gwahodd plant 4-11 mlwydd oed i fynd i’w llyfrgell leol, darganfod llyfrau newydd, mwynhau haf yn llawn hwyl, dychymyg ac ysbrydoliaeth yn yr awyr agored.

Yn cynnwys darluniadau hardd gan yr artist sydd wedi ennill gwobrau, Dapo Adeola, mae Gardd o Straeon yn cynnig byd o straeon, creaduriaid ac anturiaethau sy’n seiliedig ar natur i ddarllenwyr ifanc.  Gall plant gasglu pecynnau gweithgareddau am ddim, cymryd rhan mewn digwyddiadau ar thema natur, a benthyg llyfrau penodol - y cyfan wedi eu dylunio i’w cadw’n chwilfrydig, yn weithgar, ac pharhau i ddarllen dros wyliau’r haf.

Meddai Deborah Owen, Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych: 

“Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu plant a theuluoedd yn ôl ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni.  Mae’n ffordd wych o sbarduno cariad at ddarllen tra’n annog meddyliau ifanc i archwilio natur a chreadigrwydd.  Allwn ni ddim aros i weld ein llyfrgell yn cael ei drawsnewid i Ardd o Straeon yr haf hwn!”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych:

“Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o ysbrydoli plant i ddarllen er mwynhad, tra’n dathlu harddwch y byd naturiol. Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi llythrennedd a chreadigrwydd, ac mae thema eleni, Gardd o Straeon, yn dod â’r cyfan ynghyd mewn ffordd gyffrous a chreadigol. Buaswn yn annog teuluoedd ar draws Sir Ddinbych i ymuno a manteisio ar bopeth sydd gan eu llyfrgell leol i’w gynnig yr haf hwn.

Bellach yn ei 26ain flwyddyn, mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda llyfrgelloedd cyhoeddus, ac mae’n rhad ac am ddim i ymuno.  Yn 2024, fe gyrhaeddodd y Sialens bron i 600,000 o blant, gan ysbrydoli dros 100,000 aelod newydd i ymuno â llyfrgell ar draws y DU.

I ddysgu sut i ymuno yn yr hwyl, ewch i’ch llyfrgell leol neu ewch i www.summerreadingchallenge.org.uk.

@readingagency

#SialensDdarllenYrHaf #GarddOStraeon

Comments