17/07/2025
Lleihau'r perygl o danau gwyllt yng nghefn gwlad
Gofynnir i bobl sy’n ymweld â chefn gwlad Sir Ddinbych chwarae eu rhan i leihau'r risg o danau gwyllt yn y Sir.
O ystyried y tywydd sych diweddar, mae Cyngor Sir Ddinbych a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rhoi cyngor i bobl ar sut i atal tanau gwyllt rhag lledu pan fyddant allan yng nghefn gwlad.
Er mwyn sicrhau diogelwch pawb a chadw ein tirlun hardd, mae Tirlun Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn annog holl ymwelwyr a’r rhai sy’n gwersylla mewn safleoedd poblogaidd megis Moel Famau, Loggerheads a Rhaeadr y Bedol i amnewid eu barbeciw am bicnic.
Mae’r defnydd o farbeciw, stôf wersylla neu danau gwersyll ar y rhostiroedd hyn yn achosi risg tân eithafol ac maent wedi’u gwahardd yn llym.
Bydd ceidwaid cefn gwlad y Cyngor ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymweld â safleoedd allweddol dros yr haf i hysbysu ymwelwyr yn uniongyrchol am y peryglon posibl o farbeciw a thanau cefn gwlad.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Rydym eisiau i bob ymwelydd gael profiad llawn o harddwch Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, fodd bynnag, mae ein rhostiroedd yn hynod o fregus ar hyn o bryd yn sgil y tywydd cynnes yn ddiweddar.
“Trwy wneud y dewis syml i fwynhau picnic a gadael y fflamau agored adref, mae ymwelwyr yn chwarae rhan hanfodol o gadw ein safleoedd yn ddiogel er mwynhad i bawb.
“Mae effaith tanau gwyllt ar y rhostiroedd yn mynd tu hwnt i’r fflamau uniongyrchol. Gall adael creithiau ar ein tirlun am flynyddol, rhyddhau carbon niweidiol, ac yn yr achosion mwyaf eithafol, peryglu bywydau.
“Hoffwn gydnabod gwaith caled ein ceidwaid Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sydd yn gosod arwyddion perygl tân ac yn ymgysylltu gydag ymwelwyr i amlygu’r peryglon hyn.”
Gwyliwch fideo byr am beth i'w osgoi: