Gorffennaf 2025

28/07/2025

Tyfu cymorth i löyn byw prin

Mae cenhedlaeth newydd o goed sydd dan fygythiad yn paratoi i helpu i gefnogi glöyn byw prin. 

Mae tîm bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych wedi meithrin cnwd mawr o lwyfenni llydanddail ym Mhlanhigfa Goed Tarddiad Lleol, Llanelwy.

Mae Llwyfenni Llydanddail dan fygythiad yn sgil clefyd llwyfen yr Isalmaen, a bu’n rhaid torri nifer o goed yn sgil effaith y clefyd hwn, sydd wedi lleihau twf a lledaeniad coed iau.

Mae dros 1,800 o lwyfenni llydanddail wedi’u tyfu gan y tîm ar y safle o hadau a gasglwyd o Barc Gwledig Loggerheads y llynedd i helpu’r goeden atgyfodi yn Sir Ddinbych. Yn y pen draw, bydd y rhain yn cael eu plannu yn natblygiad Gwarchodfa Natur Green Gates ger y blanhigfa goed.

Ariennir y gwaith hwn a phrosiectau eraill ar y safle i ddiogelu rhywogaethau coed a blodau gwyllt lleol gan Lywodraeth Cymru drwy’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fel rhan o waith y Cyngor â’r Bartneriaeth Natur Leol. 

Mae’r llwyfenni llydanddail yn blanhigion bwyd larfaol pwysig i’r Brithribin Gwyn, a gofnodwyd yn Loggerheads ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond mae bellach yn brin iawn yn y sir.

Mae ar y glöyn byw hwn angen blagur blodau’r llwyfenni llydanddail fel bwyd i oroesi.

Eglurodd Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed:  “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu tyfu bron i 2,000 o lwyfenni llydanddail yma yn y blanhigfa gan fod dyfodol y goeden wedi bod dan fygythiad yn sgil clefyd llwyfen yr Isalmaen ac amharodrwydd i ailblannu’r goeden.

“Mae’r goeden hon yn darparu bwyd i löyn byw prin iawn a bydd nifer yn cael eu plannu yng Ngwarchodfa Natur Green Gates, a bydd hyn yn mynd yn bell iawn i annog y Brithribin Gwyn i ffynnu eto.  

“Dim ond llwyfenni llydanddail ifanc sy’n ddigon hen i flodeuo y mae’r gloÿnnod byw eu hangen i roi bwyd iddynt a bydd y cnwd cyntaf hwn sydd gennym yn berffaith i fodloni’r gofyniad hwn.”

“Mae mor bwysig dadwneud y dirywiad hwn i goed a chynefinoedd a grëwyd gan newid yn yr hinsawdd a gweithredoedd pobl.  Mae’r llwyfenni llydanddail yn enghraifft berffaith gan fod planhigion a choed i gyd yn gwneud eu rhan i ddarparu ffynhonnell bwyd hanfodol i bryfed ac anifeiliaid.  Os bydd llai ohonynt yn Sir Ddinbych, bydd ein natur leol mewn mwy o berygl.”

 

 

Comments