Gorffennaf 2025

18/07/2025

Lleisiau plant mewn Fforymau Cynghorau Ysgolion

Wedi’u cynnal dros ddau ddiwrnod, aeth 19 o Gynghorau Ysgolion i ddigwyddiadau, gweithdai a Siambr Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Fforymau Cynghorau Ysgolion, gan gyflwyno gwaith eu cyngor ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol ddiwethaf.

Plant yn cwrdd â'r Cynghorydd Arwel Roberts (Cadeirydd y Cyngor) ac y Cynghorydd Diane King (Aelod Arweiniol Plant, Cymunedau a Theuluoedd) a Rocio Cifuentes (Comisiynydd Plant Cymru).

Wedi’i gynnal yn Ysgol Uwchradd Dinbych, aeth 14 ysgol i’r Fforwm Cynghorau Ysgolion Cynradd, gyda chynrychiolwyr o gynghorau ysgolion Ysgol Christchurch, Ysgol Carreg Emlyn, Ysgol Gymraeg Henllan ac Ysgol Clawdd Offa yn cyflwyno eu gwaith. 

Cafodd y Fforwm Cynghorau Ysgolion Uwchradd ei gynnal yn Neuadd y Sir, Rhuthun a chafodd disgyblion Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Dinas Bran, Ysgol Santes Ffraid, Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Uwchradd Prestatyn gyfle i ymweld â Siambr y Cyngor a chwrdd â Chadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts, ac Aelod Arweiniol Plant, Cymunedau a Theuluoedd, y Cynghorydd Diane King.

Rhannodd y disgyblion y gwaith gwych maen nhw wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ysgol, ac fe gawson nhw hefyd gyfle i ddysgu am brosesau democrataidd y Cyngor, system ficroffonau’r Siambr a’r system bleidleisio electronig.

Plant yn dysgu am y system bleidleisio electronig a microffonau’r Siambr.

Yn ystod y digwyddiadau, rhoddodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, a Sophie Williams gyflwyniadau ar hawliau plant.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Yn Sir Ddinbych, rydym ni’n dychmygu cymunedau ble mae pobl ifanc yn cymryd rhan weithredol yn y penderfyniadau sy’n siapio eu bywydau. 

Mae’n hollbwysig bod ganddyn nhw lefydd diogel ac agored i rannu profiadau a dylanwadu ar bolisïau ar faterion o bwys. Mae digwyddiadau fel y Fforymau Cynghorau Ysgolion yn helpu disgyblion i ddysgu am y prosesau democrataidd sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Hoffaf ddiolch i bob ysgol a ddaeth i’r fforymau, ac am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn ysgol.” 

Meddai Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae cael llais mewn penderfyniadau yn hawl dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac yn elfen allweddol o’r Dull Hawliau’r Plentyn.

Roedd yn bleser gen i fynd i’r fforymau i gwrdd â’r bobl ifanc a darganfod sut maen nhw wedi bod yn arfer yr hawl honno yn eu hysgolion a’u cymunedau.”

Comments