Gorffennaf 2025

11/07/2025

Gwobrau Trysor Cudd Croeso Cymru i Garchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre

Mae dau o atyniadau treftadaeth poblogaidd Sir Ddinbych, sef Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre, wedi ennill gwobr ‘Trysor Cudd’ 2025.

Caiff y gwobrau ‘Trysor Cudd’ eu dyfarnu bob blwyddyn gan Croeso Cymru i ddathlu mannau nad ydyn nhw o reidrwydd yn rhan o’r atyniadau twristaidd arferol, ond sydd werth teithio ychydig allan o’r ffordd i’w gweld, diolch i’r ymweliadau bythgofiadwy y maen nhw’n eu cynnig.

Mae Carchar Rhuthun yn cynnig profiad unigryw i ymwelwyr o garchar Oes Fictoria, lle cewch chi archwilio bywyd y tu ôl i fariau cell yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dysgu am hanesion carcharorion enwog fel Coch Bach y Bala, y cyfeirir ato fel Houdini Cymru. Caiff ymwelwyr â Nantclwyd y Dre gamu drwy dros 500 mlynedd o hanes, o’r canol oesoedd i gyfnod yr Ail Ryfel Byd, a chrwydro’r gerddi hyfryd.

Yn llawn llwybrau a gweithgareddau rhyngweithiol sy’n gadael i ymwelwyr o bob oed ddysgu am eu straeon, mae hanes unigryw’r ddau atyniad yn dod yn fyw drwy deithiau tywys llafar, arddangosfeydd hynod ddiddorol a seinweddau y gallwch chi ymgolli ynddyn nhw.

Meddai Carly Davies, y Prif Swyddog Treftadaeth:

“Rydym yn hynod falch bod Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre wedi llwyddo i gael statws Trysor Cudd eto eleni. Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd a chyffrous o ddod â hanes ein hatyniadau hanesyddol yn fyw, felly mae’n hyfryd cael y gydnabyddiaeth hon gan Croeso Cymru.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’n wych bod Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre wedi cael eu cydnabod fel Trysorau Cudd gan Croeso Cymru. Mae’r safleoedd hyn yn cynnig taith wirioneddol gynhwysol drwy ein treftadaeth leol, ac yn rhan hanfodol o rannu straeon unigryw Sir Ddinbych.

“Mae Rhuthun yn dref llawn hanes, a gobeithio y bydd y gwobrau diweddar hyn yn atgyfnerthu’r ffaith ei fod yn lle gwych i bobl leol ac ymwelwyr ymweld ag ef.”

I gael rhagor o wybodaeth am Garchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre, gan gynnwys yr oriau agor a’r digwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i’n gwefan neu cysylltwch â’r tîm yn heritage@denbighshire.gov.uk

Comments