11/07/2025
Gwasanaeth Cefn Gwlad yn cynnal teithiau cerdded natur ym Mhrestatyn

Bydd Tîm Cefn Gwlad y Cyngor yn cynnal cyfres o deithiau cerdded o amgylch Parc Natur Morfa Prestatyn.
Bydd y teithiau cerdded, sy’n cael eu cynnal yn y parc, yn ymgynghoriad anffurfiol gyda thrigolion ac yn gyfle i breswylwyr ddysgu mwy am y safle 60 erw yng nghanol Prestatyn, yn ogystal â’r cyllid gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar.
Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yn Nyffryn Clwyd ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
Bwriad y prosiect ym Mharc Natur Morfa Prestatyn fydd gwneud y safle’n fwy hygyrch trwy greu rhwydwaith o lwybrau hygyrch ar gyfer cerddwyr a beicwyr drwy’r coetir a’r gwlyptir. Bydd creu’r llwybr pren uwch ben y ddaear yn caniatáu i ymwelwyr werthfawrogi harddwch y gwlyptir heb amharu arno.
Un o elfennau eraill y prosiect fydd creu terfyn o amgylch y gwlyptir cyfan er mwyn gallu rheoli’r ardal trwy bori cadwriaethol gyda gwartheg Galloway rhesog.
Bydd y gwartheg yn pori’r llystyfiant mwyaf a chryfaf, a fydd yn helpu i atal y gwlyptir rhag tyfu’n wyllt â phrysgwydd ac yn annog bioamrywiaeth. Bydd hynny yn ei dro yn sicrhau digonedd o gynefin i famaliaid bach, adar sy'n nythu, pryfed peillio ac amrywiaeth eang o rywogaethau di-asgwrn cefn.
Dyma ddyddiadau ac amseroedd y teithiau cerdded natur:
- 3pm–4pm – dydd Iau 17 Gorffennaf
- 6pm–7pm – dydd Iau 17 Gorffennaf
- 10am–11am – dydd Gwener 18 Gorffennaf
- 1pm–2pm – dydd Gwener 18 Gorffennaf
Man Cyfarfod: Maes Parcio Coed Y Morfa Car Park (Cyfeirnod Grid : SJ 058 823), Côd post: LL19 8AJ.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Bydd y teithiau cerdded yma’n gyfle gwych i deuluoedd a rhai sy’n hoff o natur gael mwynhau’r awyr agored mewn man sydd yng nghanol Prestatyn a dysgu mwy am y gwlyptir.
“Bydd y cyllid ar gyfer y prosiect hwn i wella hygyrchedd y safle’n sicrhau bod ymwelwyr yn gallu parhau i fwynhau’r parc natur yn y dyfodol”.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiectau Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych, cofrestrwch i dderbyn y newyddlen.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau sydd wedi’u hariannu gan Lywodraeth y DU, ewch i’n gwefan.