23/07/2025
Parcio yng Nghefn Gwlad Llangollen dros wyliau'r haf
Bydd swyddogion y Cyngor yn monitro parcio yn Rhaeadr y Bedol, Llangollen, a’r ardal gyfagos dros wyliau’r haf.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog rhai sy’n ymweld â’r gyrchfan boblogaidd i barcio’n gyfrifol dros yr haf ac ystyried cynllunio ymlaen llaw i ymweld ag atyniadau eraill sydd ar gael ar draws Dyffryn Dyfrdwy, os bydd yr ardal yn brysur.
Mae llawer o baratoadau wedi’u gwneud eisoes i reoli cynnydd yn nifer yr ymwelwyr:
- Bydd ceidwaid cefn gwlad ychwanegol o gwmpas i reoli’r ardal a darparu cymorth a gwybodaeth i ymwelwyr.
- Bydd swyddogion gorfodi sifil hefyd yn monitro’r safle a’r ardal gyfagos, yn enwedig yn ystod yr adegau a ragwelir brysuraf.
- Mae ffensys wedi’u gosod ger mynedfa maes parcio Rhaeadr y Bedol er mwyn atal pobl rhag parcio ar yr ymylon glaswellt a rhwystro traffig arall.
- Mae arwyddion ymwybyddiaeth yn amlwg ar y safle gan gynghori gyrwyr i barcio’n gyfrifol.
- Bydd y Cyngor yn cysylltu â phartneriaid hefyd gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru er mwyn monitro unrhyw gynnydd o ran materion traffig yn y safle.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Rydym am i ymwelwyr fwynhau Rhaeadr y Bedol a’r ardaloedd cyfagos ond byddem yn argymell yn gryf iddynt gofio bod cyfyngiadau parcio yn bwysig o ran diogelwch y ffyrdd a sicrhau bod cyfle teg i bawb gael lle i barcio. Mae angen i yrrwyr fod yn ymwybodol wrth ymweld y gall swyddogion gorfodi sifil roi Rhybudd Talu Cosb i unrhyw un nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau parcio.
“Mae ein ceidwaid yn gweithio yn Rhaeadr y Bedol i ddarparu cyngor ac arweiniad i ymwelwyr sy’n dod i’r safle a byddwn yn gofyn i’r cyhoedd hefyd barchu’r rôl maen nhw yno i’w gwneud.
“Cynlluniwch eich diwrnod ymlaen llaw, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio dewisiadau eraill i ymweld â nhw ac o ran parcio os na fydd modd i chi ymweld â’ch dewis cyntaf o leoliad. Mae digonedd o atyniadau i ymweld â nhw yn Nyffryn Dyfrdwy.”