Gorffennaf 2025

16/07/2025

Planhigfa yn tywallt cymorth i helpu byd natur dyfrol

Mae gwaith ar y gweill i amddiffyn planhigion sy’n hoff o ddŵr

Mae tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn troi eu llaw at blanhigion o fath gwahanol ar gyfer prosiect newydd ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy.

Mae’r safle’n tyfu miloedd o goed a blodau gwyllt ar hyn o bryd sydd i gyd yn tarddu o’r sir yn lleol er mwyn eu dychwelyd i roi hwb i fyd natur Sir Ddinbych. Llywodraeth Cymru sydd yn ariannu’r prosiect drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Yn y blanhigfa mae creulys y dŵr yn cael ei dyfu mewn cynwysyddion llawn dŵr ar hyn o bryd ar gyfer prosiect sy’n arwain mewn ymdrech i roi hwb i blanhigion dyfrol lleol mewn pyllau ledled y sir.

Mae creulys y dŵr yn ddelfrydol ar gyfer pyllau gan ei fod yn gallu gwella ansawdd dŵr a darparu cynefin defnyddiol i rywogaethau megis madfallod i ddodwy eu hwyau, yn ogystal â rhoi hwb i fioamrywiaeth mewn ffyrdd eraill.  

Yn yr un modd, mewn dau bwll datblygedig y tu hwnt i’r blanhigfa, mae crafanc ddŵr gyffredin hefyd yn tyfu. Mae’r planhigyn hefyd yn ocsigeneiddio a chynnig lloches, gan ffurfio rhan o ecosystem ffyniannus.

Eglurodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Evie Challinor: “Mae planhigion dyfrol yn chwarae rôl yr un mor bwysig i amddiffyn byd natur lleol â’n blodau gwyllt yn y sir. Rydyn ni wedi dechrau tyfu creulys y dŵr yn y blanhigfa gyda’r bwriad o gynhyrchu digon o ddeunydd brodorol, o darddiad lleol, i ni allu plannu’n well mewn pyllau a allai fod angen help llaw.”

“Rydym hefyd yn bwriadu olrhain unrhyw byllau sydd â phoblogaeth dda o blanhigion brodorol y gallwn o bosibl gasglu ohonynt, felly mae unrhyw un sydd â’u pyllau eu hunain, gyda phlanhigion dyfrol heb eu plannu, o ddiddordeb i’r tîm.

Ychwanegodd:  “Wrth gyflawni’r gwaith hwn, rydym yr un mor hapus i gael cysylltiadau ar gyfer pobl sydd eisiau cyngor am eu pyllau ag yr ydym i adeiladu rhwydwaith cydweithredol fel y gall pobl gyfnewid arferion gorau.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi’r prosiect hwn neu ganfod mwy e-bostio Evie yn biodiversity@denbighshire.gov.uk

 

 

Comments