Gorffennaf 2025

04/07/2025

Y diweddaraf am y gwelliannau i’r Parth Cyhoeddus ar Sgwâr Sant Pedr

Mae Cyngor Sir Dinbych yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau i'r parth cyhoeddus yn Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun.

Yn 2023, gwnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau eu bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sydd â’r nod o ddiogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Bydd y gwaith arfaethedig yn ceisio ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, gan hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref ar yr un pryd.

Gall y Cyngor gadarnhau na fydd ei waith gwella arfaethedig i’r parth cyhoeddus yn Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun, sydd i fod i ddechrau yng ngwanwyn 2026, yn effeithio ar Ŵyl Rhuthun na digwyddiad Drysau Agored Cadw yn 2026.

Yn dilyn trafodaethau â Phwyllgor yr Ŵyl a budd-ddeiliaid eraill, mae'r Cyngor wedi gwrando ar bryderon ynghylch oedi posibl i'r cynllun a'r effaith y gallai hyn ei chael ar Ŵyl Rhuthun a digwyddiad Drysau Agored yn benodol.

Mewn ymateb i hyn, mae'r Cyngor wrthi'n datblygu amserlen adeiladu sy'n blaenoriaethu hyblygrwydd ac yn lleihau unrhyw darfu.

I sicrhau y gall digwyddiadau fynd rhagddynt yn rhwydd a heb rwystr, mae’r Cyngor yn cynnig bod gwaith ar y ffyrdd ochr o amgylch y sgwâr yn cael ei gwblhau yn gyntaf, a threfnwyd i’r prif waith gwella i Sgwâr Sant Pedr ei hun ddechrau ar ôl Gŵyl Rhuthun o fis Gorffennaf 2026 ymlaen.

Bydd mynediad i gerddwyr hefyd yn parhau ar agor i leoliadau sy'n cymryd rhan yn nigwyddiad Drysau Agored ym mis Medi 2026.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

"Rydym ni’n cydnabod pa mor hanfodol yw Gŵyl Rhuthun a digwyddiadau eraill yn Rhuthun i fusnesau lleol a'r gymuned ehangach, yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Maen nhw'n cynyddu refeniw a nifer yr ymwelwr sy’n ymweld â’r dref yn sylweddol, ac yr ydym ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi eu llwyddiant parhaus."

“Mae’r ymrwymiad hwn i Ŵyl Rhuthun yn rhan o ymdrechion ehangach y Cyngor i gefnogi busnesau lleol drwy gydol cyfnod adeiladu’r cynllun ac mae cyfres o fesurau’n cael eu datblygu ar hyn o bryd i helpu i leihau unrhyw effaith yn sgil y gwaith adeiladu”.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ewch i’n gwefan.

Comments