Gorffennaf 2025

25/07/2025

Sir Ddinbych yn ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd

Mewn partneriaeth â Rhwydwaith Heneiddio’n Dda Sir Ddinbych, mae cais diweddar Cyngor Sir Ddinbych i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd wedi cael ei gymeradwyo.

Mae'r Aelodaeth hon yn caniatáu hawl i rannu gwybodaeth a rhwydweithio gyda chymuned fyd-eang a chefnogaeth gan rwydwaith byd-eang sydd wedi ymrwymo i feithrin amgylcheddau sy'n gyfeillgar i oed.

Lluniwyd y cais gan bartneriaid Heneiddio'n Dda Sir Ddinbych ac fe'i llywiwyd gan adborth gan bobl hŷn ar hyd a lled Sir Ddinbych.

Mae Cyngor Sir Dinbych, a'i bartner yn y Rhwydwaith Heneiddio'n Dda, Age Connects, hefyd wedi cael eu cydnabod gan y Ganolfan Heneiddio'n Well fel cyflogwyr sy'n gyfeillgar i oed.

Mae llofnodi’r Addewid Cyflogwr sy’n Gyfeillgar i Oed yn gynharach eleni, yn cadarnhau safbwynt y Cyngor ar ei bolisi ar gyfer pobl hŷn a’u gwerthoedd a’u hawliau.

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Rwyf wrth fy modd bod ein cais wedi cael ei gymeradwyo a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu cyfraniad. Dyma waith partneriaeth ar ei orau yn wir. Fel aelod o'r Rhwydwaith Byd-eang o Gymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed, gallwn ddysgu a rhannu profiadau gydag aelodau eraill ledled y byd a dysgu oddi wrthyn nhw yn Sir Ddinbych.

Hoffwn annog cyflogwyr eraill yn Sir Ddinbych i ymuno â’r addewid Cyflogwr sy’n Gyfeillgar i Oed, gan gydnabod y sgiliau, y profiad a’r wybodaeth y gall pobl hŷn eu cynnig i’r gweithle.”

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae pawb yn haeddu mynd yn hŷn mewn cymuned sy’n gynhwysol, yn ddeallus ac yn gefnogol, a dyna sy’n gwneud gwaith ein Rhwydwaith Heneiddio’n Dda yn Sir Ddinbych mor amhrisiadwy.

Mae cael eich derbyn i Rwydwaith Byd-eang Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed Sefydliad Iechyd y Byd yn gamp anhygoel i Sir Ddinbych a'i bartneriaid. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau y gallwn fyw'n dda, cadw mewn cysylltiad, a theimlo'n werthfawr yn ein cymunedau wrth i ni heneiddio.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad llwyr y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, a phawb sy'n gysylltiedig ar draws ein sefydliadau partner. Dim ond y dechrau yw'r cyflawniad hwn. Gyda'n gilydd, fel rhwydwaith cryf, byddwn yn parhau i gyflawni ein huchelgeisiau a nodir yn ein cynllun gweithredu, a gymeradwywyd gan WHO.”

Comments