03/07/2025
Digwyddiad i ddathlu Partneriaeth TCC newydd
Wedi'i gynnal yn ystod wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, dathlwyd lansiad swyddogol y bartneriaeth TCC newydd yn Neuadd y Dref, y Rhyl.
Yn gyfaddawd rhwng Cyngor Sir Dinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Heddlu Gogledd Cymru a chynghorau tref Dinbych, Prestatyn, Rhuddlan a'r Rhyl, mae'r bartneriaeth yn anelu at wneud strydoedd Sir Dinbych yn fwy diogel trwy uwchraddio camerâu cylch cyfyng fannau cyhoeddus sydd eisoes yn bodoli.
Ar ôl sicrhau £278,000 Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU i i brynu nifer o gamerâu Chwyddo-Panio-Gogwyddo (PTZ) a chamerâu statig i'w gosod yn Rhuddlan, Prestatyn a'r Rhyl, a dau gamera symudol arall i ddarparu opsiwn dros dro mewn ardaloedd sy'n dangos cyfradd uwch o ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd y bartneriaeth newydd hefyd yn elwa o system fonitro adweithiol 24 awr arobryn trwy ystafell reoli CCTV ganolog yng Nghonwy a fydd yn cysylltu'n uniongyrchol â Heddlu Gogledd Cymru.
I Orllewin y Rhyl, mae hyn yn cefnogi'r fenter bartneriaeth Prosiect Adnewyddu sydd wedi bod ar waith ers haf 2024. Bydd ychwanegu'r camerâu TCC newydd yn cyfrannu at atal troseddau sy'n digwydd dro ar ôl tro ac adeiladu gwydnwch o fewn y gymuned.
Meddai llefarydd ar ran y Cyngor Tref:
“Mae cyflwyno darpariaeth TCC ychwanegol yn fantais fawr i’n cymunedau, a bydd yn adnodd pwerus i atal gweithgarwch troseddol, gwella diogelwch y cyhoedd a darparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer ymchwiliadau. Mae’r bartneriaeth newydd yn enghraifft wych o gydweithio rhwng Cynghorau Sir, Tref a Chymuned lleol i sicrhau bod y gymuned leol yn lle mwy diogel.”
Meddai Uwch-arolygydd yr ardal ganolog, Lee Boycott:
“Rwy’n croesawu’r buddsoddiad ychwanegol mewn darpariaeth TCC yn ein trefi lleol. Nid yn unig y mae’n adnodd gwerthfawr i atal troseddu a chadw ein cymunedau’n ddiogel, ond gall hefyd fod yn ffynhonnell dystiolaeth werthfawr i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.”
Meddai Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin:
“Mae TCC yn adnodd hanfodol wrth geisio atal troseddu ac rwy’n cefnogi awdurdodau lleol a chynghorau cymuned ledled gogledd Cymru yn eu hymdrechion i sicrhau eu bod ar gael ym mhob rhan o’u cymunedau mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru.
“Gall TCC helpu ein timau plismona yn y gymdogaeth drwy ganfod troseddwyr a darparu tystiolaeth. Gall hefyd helpu tawelu meddyliau ein trigolion a’n busnesau lleol, a’r gobaith yw y bydd hynny’n arwain at roi hwb i economïau canol tref.
“O ystyried hyn oll, mae'n gadarnhaol iawn gweld y gwahaniaeth y mae'r buddsoddiad yn Sir Ddinbych yn ei wneud wrth gynyddu'r ddarpariaeth teledu cylch cyfyng yn y Rhyl, Prestatyn, Rhuddlan a Dinbych, ac rwy’n cymeradwyo eu hymdrechion. Edrychaf ymlaen at gael gweld y gwahaniaeth y mae’r cynnydd hwn yn y ddarpariaeth yn ei wneud i bobl yr ardal.”
Meddai’r Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth, yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio Conwy:
“Rwy’n falch iawn o weld ein bod wedi cael y contract i reoli’r gwasanaeth monitro TCC ar ran Partneriaeth TCC Sir Ddinbych.
“Rydym yn falch iawn o’n gwasanaeth TCC di-guro. Mae’r gwasanaeth llwyddiannus yn gweithredu ers 2018 o’n hystafelloedd monitro pwrpasol diogel ym Mae Colwyn, ac mae’n cyrraedd y safonau rhyngwladol uchaf.
“Credaf ei bod yn gwneud synnwyr i’n cymdogion agosaf elwa ar y buddsoddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â nhw i dawelu meddyliau trigolion, busnesau ac ymwelwyr ar hyd a lled y ddwy sir.”
Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Chadeirydd Partneriaeth TCC Sir Ddinbych:
“Mae datblygiad y bartneriaeth hon yn rhywbeth i edrych ymlaen ato. Hoffem ddiolch i’r aelodau sy’n rhan o’r bartneriaeth hon am eu cefnogaeth drwy gydol y broses, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â nhw i wneud ein cymunedau’n lleoedd mwy diogel.
“Rhan o wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yw tynnu sylw at bryderon ein dinasyddion ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein strydoedd ac rydym yn gwybod bod TCC yn chwarae rhan bwysig wrth weithredu fel ataliad mewn gweithgarwch troseddol.
“Rydym yn gobeithio gweld y Bartneriaeth yn datblygu ymhellach i fod yn fwy rhagweithiol ar draws y Sir yn y blynyddoedd nesaf, er mwyn gweld TCC yn cyfrannu mewn modd cadarnhaol i’r gymuned leol.”
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect TCC ewch i’n gwefan.