30/07/2025
Disgybl yn gorffen yr Ysgol Gynradd heb fethu’r un diwrnod
Mae disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Esgob Morgan, Renesmai, wedi llwyddo i gyflawni presenoldeb 100% trwy gydol ei thaith trwy’r ysgol gynradd, o’r Dosbarth Derbyn yn Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanelwy gerllaw, yr holl ffordd i Flwyddyn 6 yn Ysgol Esgob Morgan.
Tim Redgrave (Pennaeth), Renesmai (Disgybl), Cynghorydd Diane King (Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd) a Geraint Davies, (Pennaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych)
Mae’r record arbennig hon yn dyst i ymrwymiad Renesmai i’w haddysg, ac i ymroddiad ei mam, Olivia. Er ei bod yn byw chwe milltir o’r ysgol, llwyddodd Olivia i sicrhau bod Renesmai yn y dosbarth bob dydd. Hyd yn oed yn ystod cyfnodau pan fu’r bysiau ar streic, daeth i’r ysgol ar feic, gyda Renesmai a’i chwaer iau mewn trelar ar y cefn, ym mhob tywydd.
Dywedodd Tim Redgrave, Pennaeth:
“Rydym yn hynod o falch o Renesmai. Mae ei hagwedd at bob rhan o fywyd ysgol heb ei hail. Mae hi’n barod i roi cynnig ar unrhyw beth a phopeth a rhoi o’i gorau bob tro. Rwy’n cydnabod yn llwyr nad yw pob plentyn yn gallu cyflawni 100% o ran presenoldeb – mae llawer yn wynebu heriau meddygol neu bersonol, ac rydym bob amser yn trin achosion o’r fath â gofal a dealltwriaeth.
Fodd bynnag, ni ddylai hynny ein hatal rhag dathlu pan fo disgybl yn cyflawni rhywbeth wirioneddol arbennig fel hyn.”
Yng Nghymru, mae achosion o beidio â methu’r un diwrnod trwy gydol y cyfnod yn yr ysgol gynradd yn brin. Cyfradd presenoldeb cyfartalog yn yr ysgol gynradd yn ystod 2023 – 2024 oedd 92.1% ac roedd tua 1 o bob 4 o ddisgyblion yn absennol yn aml gan olygu eu bod wedi methu o leiaf 10% o sesiynau yn yr ysgol. Mae hyn yn golygu bod record berffaith Renesmai hyd yn oed yn fwy arbennig.
Ychwanegodd Mr Redgrave:
“Yr hyn y mae Renesmai a’i mam wedi’i ddangos yw pŵer dyfalbarhad, cysondeb a gwerth addysg. Mae’n enghraifft wych o gadernid ac rydym yn falch o’i gydnabod.”
Er mwyn nodi’r garreg filltir hon, cafodd hi ymweliad a thystysgrif gan Geraint Davies, Pennaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych a’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd, a ddywedodd:
“Dyma gyflawniad anhygoel a phrin, sy’n dyst i ymroddiad ac ymrwymiad Renesmai a’i theulu i ddysgu.
Hoffwn eu llongyfarch nhw am y cyflawniad gwych hwn.”