01/07/2025
Rhoi hwb i effeithlonrwydd ynni solar mewn ysgol yn y Rhyl
Mae isadeiledd ynni solar ychwanegol yn gwella effeithlonrwydd ynni mewn ysgol yn y Rhyl.
Mae gwaith wedi’i gwblhau yn Ysgol Uwchradd y Rhyl i osod paneli ffotofoltaig ychwanegol ar do’r adeilad, gan helpu i leihau dibyniaeth ar ynni’r grid cenedlaethol, costau hirdymor ac allyriadau carbon o’r safle.
Mae’r cyfan yn rhan o waith parhaus Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych i leihau defnydd a chostau ynni mewn adeiladau sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol.
Mae'r tîm wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau’r Cyngor yn cynnwys ysgolion, er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau carbon a chostau defnyddio dros y tymor hwy hefyd.
Yn gyntaf, fe wnaethant asesu Ysgol Uwchradd y Rhyl i ganfod pa feysydd o ran defnydd ynni y gellid eu gwella er mwyn cynyddu effeithlonrwydd.
Gyda chefnogaeth gan Wasanaethau Plant ac Addysg y Cyngor, cafodd y system solar ffotofoltaig 40kw bresennol ar do’r ysgol ei chynyddu i system solar ffotofoltaig 95kw.
Bydd y paneli ffotofoltaig newydd, ochr yn ochr â’r rhai presennol, yn helpu i ddefnyddio ynni o’r haul i bweru’r safle, gan leihau’r pwysau ar y system grid lleol a helpu i leihau allyriadau carbon ar y safle.
Bydd pob cilowat a gynhyrchir gan y paneli ffotofoltaig ac a ddefnyddir gan yr ysgol yn arbed tua 22 ceiniog.
Disgwylir i’r gwaith o osod y paneli solar ffotofoltaig ychwanegol arbed 42,320kWh, mwy na 10 tunnell o allyriadau carbon a thros £11,749.00 y flwyddyn mewn llai o gostau ynni, gan dalu’n ôl yr hyn sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn cyfnod byr o amser.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein Tîm Ynni’n ddiolchgar iawn i Ysgol Uwchradd y Rhyl am ganiatáu i ni gynnal y gwaith ychwanegol hwn i helpu’r ysgol i leihau defnydd ynni a gostwng costau hirdymor, gan hefyd greu amgylchedd dysgu a lles brafiach i gefnogi disgyblion a staff.
“Dyma ddarn pwysig o waith sy’n cefnogi ein hymdrech barhaus i leihau defnydd ynni a chostau a gostwng olion troed carbon ar draws ein hystâd adeiladau, ac mae’n wych gweld yr ysgol a’n Tîm Ynni yn cydweithio i gyflawni hyn.”
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Bydd y gwaith hwn o gymorth i ddefnydd ynni cyffredinol Ysgol Uwchradd y Rhyl ac mae’n gam ymlaen tuag at gynyddu’r gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ein hadeiladau addysgol.
Mae’r gwaith o’u gosod yn ymdrech ar y cyd rhwng ein tîm Addysg ac Ynni, sy’n cydweithio i helpu i leihau costau ynni hirdymor ac allyriadau ar yr un pryd.”