01/07/2025
Y gymuned yn dod i gefnogi nythfa adar enwog

Mae’r gymuned wedi bod yn hynod gefnogol eleni o’r adar sydd dan fygythiad.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru a gwirfoddolwyr eraill yn edrych ar ôl nythfa 2025 ar Dwyni Tywod Gronant.
Mae’r safle yn croesawu’r adar yr holl ffordd o arfordir gorllewinol Affrica. Codwyd ffens derfyn 3.5km a ffens drydan 3km ar hyd y traeth i warchod yr adar rhag ymosodiadau ar y tir. Bydd y ddwy ffens yn cael eu tynnu ar ddiwedd y tymor i sicrhau polisi dim olion yn yr ardal sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Y llynedd, cofnodwyd 166 o barau bridio a chyfanswm o 158 o gywion bach, a oedd ychydig yn fwy na nifer y cywion a gafwyd yn nhymor 2023.
Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r guddfan wrth ymyl y nythfa wedi galluogi pobl i wylio’r adar o bellter diogel.
Y tymor hwn mae’r nythfa wedi cael dau ymweliad gan ddisgyblion Ysgol y Llys ac ymweliadau gan Glwb Rhedeg Prestatyn a Gŵyl Gerdded Prestatyn.

Eglurodd Claudia Smith, Ceidwad Arfordir Gogledd Sir Ddinbych: “Mae cael cefnogaeth leol i’r nythfa yn wych. Mae pawb wedi bod yn gefnogol a brwdfrydig iawn ar eu hymweliadau, ac eisiau clywed mwy am y gwaith rydym ni’n ei wneud i ddiogelu’r adar bach yma.
“Mae’r nythfa yn ased pwysig iawn i Sir Ddinbych a Chymru er mwyn i’r môr-wenoliaid bach ffynnu a goroesi a chael dyfodol disglair, ac mae cael cefnogaeth y gymuned yn helpu i amlygu cyfraniad y safle at ddiogelu’r adar yma.”