Gorffennaf 2025

22/07/2025

Ysgol yn Rhuddlan i dderbyn mwy o ofod mewn ystafelloedd dosbarth

Mae Ysgol y Castell yn Rhuddlan yn barod i dderbyn gwaith uwchraddio i bedair ystafell ddosbarth, yn ogystal â gwaith gwella ynni i’r safle, diolch i gynlluniau a gymeradwywyd yn ddiweddar.

Ysgol y Castell

Bydd estyniad i bedair ystafell ddosbarth, a gwaith gwella ynni cychwynnol yn cael eu cynnal yn rhan gyntaf y prosiect, sydd ar y gweill yn ystod yr haf.

Mae gwaith lleihau ynni pellach wedi’i gynllunio ar gyfer ail ran y gwaith.

Bydd yr estyniadau’n darparu 16 metr sgwâr o ofod i 4 ystafell ddosbarth, gan greu estyniad o 64 metr sgwâr at ddefnydd disgyblion, a byddwn yn gweld cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd.

Ystafelloedd Dosbarth

Mae’r contract adeiladu wedi cael ei ddyfarnu i Brynbuild ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar y safle yn ystod yr haf.

Disgwylir i’r cam cyntaf gael ei gwblhau yn ystod gaeaf 2026.

Dywedodd Pennaeth Ysgol y Castell, Sara Tate:

“Rydym wrth ein bodd bod yr estyniad yn dechrau. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu’r gorau i bob disgyblion, nawr ac yn y dyfodol.

Bydd y lle ychwanegol yn cefnogi ein cymuned ysgol sy’n tyfu ac yn gwella’r amgylchedd dysgu ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rwy’n falch bod y cyllid wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y cynllun hir ddisgwyliedig a fydd yn darparu gofod ychwanegol a chyfleusterau newydd ar gyfer yr ysgol.

Yn sgil agosatrwydd yr ysgol at safle Heneb Gofrestredig, bydd y gwaith archeolegol gofynnol hefyd yn rhoi cyfle unigryw i ddisgyblion ddysgu mwy am hanes yr ardal leol.”

Mae cam cyntaf y prosiect hwn wedi derbyn arian cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. 

Mae 35% o’r cyllid gweddillol wedi dod yn bennaf gan gyfraniad y datblygwr a ddarperir gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.

Comments