Gorffennaf 2025

27/06/2025

Pwyntiau Siarad yn cefnogi dros 1,100 o drigolion mewn blwyddyn

Mae Pwyntiau Siarad ym mhob un o Lyfrgelloedd Sir Ddinbych ac maent yn ffordd hawdd a chyfleus i drigolion Sir Ddinbych ddarganfod pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael iddynt yn eu hardal. Darperir y gwasanaeth Llyw-wyr Cymunedol gan y Groes Goch Brydeinig mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych ac yn ochr yn ochr â phartneriaid allweddol.

Jeff JonesJeff, Llyw-wyr Cymunedol

Mae ystadegau diweddar yn dangos bod y sesiynau wedi darparu cyngor ac arweiniad i dros 1,130 o drigolion Sir Ddinbych rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.

Fe wnaeth y 391 o sesiynau Pwyntiau Siarad a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwn hefyd gael 100% o adborth cadarnhaol gan y rhai a lenwodd ffurflen ar ôl sesiwn, ac roedd yr adborth yn dweud eu bod yn fodlon iawn â’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth roeddent yn ei gael.

Mae’r cymorth mae’r gwasanaeth Pwyntiau Siarad yn ei gynnig drwy’r Llyw-wyr Cymunedol yn eang, a gall amrywio o ddarparu cyngor yn unig, i atgyfeirio i gael rhagor o gymorth perthnasol a chefnogaeth a chymorth â thai.

Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth Llyw-wyr Cymunedol hefyd ddarparu 140 o sesiynau gyda sefydliadau mewnol ac allanol i drigolion Sir Ddinbych.

Dyma leoliadau ac amseroedd Pwyntiau Siarad ar hyn o bryd:

Bob dydd Llun (heblaw gwyliau banc) – Llyfrgell Llanelwy, 10:00am–12.30pm

Bob dydd Mawrth – Llyfrgell y Rhyl a Llyfrgell Rhuthun, 10:00am–12.30pm

Bob dydd Mercher – Llyfrgell Dinbych a Llyfrgell Corwen, 10:00am–12.30pm

Bob dydd Iau – Llyfrgell Llangollen, 10:00am–12.30pm

Bob dydd Gwener (heblaw gwyliau banc) – Llyfrgell Prestatyn a Llyfrgell Rhuddlan, 10:00am–12.30pm 

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Rydyn ni’n falch o’r effaith mae Pwyntiau Siarad yn ei chael i sicrhau bod cymunedau’n datblygu’n gynaliadwy yn seiliedig ar eu cryfderau a’u potensial. Mae Pwyntiau Siarad yn rhoi cyfle i unigolion sydd naill ai’n cael anawsterau eu hunain, neu'n gofalu neu’n pryderu am rywun arall, i gael sgwrs wyneb yn wyneb sy’n canolbwyntio ar beth sy’n bwysig iddyn nhw i wella eu hiechyd a’u lles. 

Mae Pwyntiau Siarad hefyd yn rhoi cyfle i staff rwydweithio a dysgu am y pethau sydd ar gael o fewn eu hardal leol er mwyn helpu i gefnogi dinasyddion Sir Ddinbych. Rydym ni eisiau gweld Pwyntiau Siarad yn parhau i ddatblygu, gan ganiatáu i’n cymunedau weithio gyda ni i ddarparu gofal cymdeithasol, gyda phobl leol yn helpu’r naill a’r llall."

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae Pwyntiau Siarad yn sesiynau defnyddiol a chyfeillgar am ddim sy’n cael eu cynnal bob diwrnod o’r wythnos ar gyfer ein trigolion sy’n teimlo eu bod angen help llaw. Nid oes angen archebu, dim ond dod i’r sesiwn.

Mae’r Llyw-wyr Cymunedol bob tro’n barod i sgwrsio a chefnogi ac maent yn gallu helpu gydag amrywiaeth eang o bethau.”

Comments