10/07/2025
Diwrnod Agored Nantclwyd y Dre yn Denu Torfeydd

Scott Kelly a Stephen Lacey
Daeth nifer dda o bobl i ddiwrnod agored Nantclwyd y Dre ar gyfer y Cynllun Gerddi Cenedlaethol unwaith eto.
Daeth garddwyr o bob cwr o’r gogledd a thu hwnt i grwydro gerddi ffurfiol a gwyllt helaeth y tŷ hanesyddol. Yn eu plith oedd y garddwr a’r awdur enwog, Stephen Lacey.
Fe wnaeth cyn gyflwynydd ‘Gardeners’ World’ y BBC ganmol y gerddi, sy’n cael gofal gan wirfoddolwyr brwd a dywedodd eu bod wedi creu argraff arno a’u bod yn llawn o liw ac yn cael gofal da iawn.
Ynghyd â’r blodau tymhorol a’r bwa rhosod eiconig, sydd wedi dychwelyd yn odidog ar ôl cael ei symud rai blynyddoedd yn ôl er mwyn caniatáu gwaith trwsio i’r waliau cyfagos, bu ymwelwyr â diwrnod agored eleni yn mwynhau gweld y coed ffrwythau brodorol, teithiau â’r Garddwr Scott, a’r llwybr newydd ar gyfer 2025 i weld planhigion meddyginiaethol.
Dywedodd Scott Kelly, Prif Arddwr yn Nantclwyd y Dre:
“Ychwanegodd ymweliad Stephen uchafbwynt arbennig i’r diwrnod, ac roedd ei eiriau caredig yn hyfryd i’w clywed. Rydym yn lwcus o gael tîm brwd o wirfoddolwyr yn yr ardd sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r gerddi trwy gydol y flwyddyn ac mae’n wych bod rhywun mor uchel ei barch ym myd garddwriaeth yn cydnabod eu gwaith caled.”
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o’r tîm ac rydym yn hynod o falch ohonynt. Mae eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd yn helpu i ddod â bywyd i erddi Nantclwyd y Dre mewn ffordd ganmoladwy ac mae’n wych clywed sylwadau mor gadarnhaol gan Stephen Lacey.
“Roedd yn ddiwrnod hynod o lwyddiannus i ddathlu garddwriaeth a threftadaeth yn y tŷ a gerddi hanesyddol”.
Mae modd ymweld â gerddi Nantclwyd y Dre yn ystod ei oriau agor arferol (dydd Iau - dydd Sadwrn, 10:30am-4.30pm, mynediad olaf am 3.30pm). Mae prisiau mynediad yn berthnasol. Ewch i’r wefan i drefnu eich ymweliad.