03/07/2025
Cynnydd da ar brosiect hydrotherapi ysgol yn y Rhyl
Mae gwaith ar y prosiect pwll Hydrotherapi yn Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl yn gwneud cynnydd cyflym, gyda disgwyl i’r prosiect gael ei gwblhau yn yr Hydref.
Prosiect Pwll Hydrotherapi, Ysgol Tir Morfa
Bydd y prosiect, sydd wedi’i ddylunio gan dîm pensaernïaeth mewnol y Cyngor, ac wedi dechrau yn gynharach yn y flwyddyn, yn dod a darpariaeth Hydrotherapi o’r radd flaenaf i’r ysgol, y cyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych.
Bydd Pwll Hydrotherapi arbenigol 19 troedfedd yn cael ei osod yn y cyfleuster newydd ar dir yr ysgol, mewn adeilad ar ei ben ei hun.
Mae’r prif strwythur craidd bellach wedi’i gwblhau, gyda’r gwaith yn canolbwyntio ar y to a’r inswleiddiad erbyn hyn. Bydd y pwll ei hun yn cael ei osod yn ddiweddarach yn yr haf.
Unwaith y caiff ei gwblhau, bydd yr adeilad yn cynnwys paneli solar ac inswleiddiad effeithlon o ran ynni, gan helpu’r cyfleuster i leihau ei ôl-troed carbon a lleihau costau ynni ar yr un pryd. Bydd yr adeilad hefyd yn cael ei wresogi gan wres o dan y llawr.
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Rwyf yn frwdfrydig iawn o weld y prosiect yn gwneud cymaint o gynnydd.
Dyma fydd y cyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych a bydd yn dod a darpariaeth werthfawr iawn i’r ysgol ar ardal ehangach.
Mae’r gwaith yn datblygu’n gyflym, ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn agor yn yr Hydref.”
Meddai Susan Roberts, Pennaeth Ysgol Tir Morfa:
“Rydym yn gyffrous iawn i weld faint o gynnydd sydd wedi’i wneud ar y prosiect Pwll Hydrotherapi.
Mae’r disgyblion yn gyffrous i allu cael mynediad at y cyfleuster hydrotherapi gwych hwn, a fydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwych iddynt, gan gefnogi eu datblygiad corfforol a lles.”
Ariennir y prosiect hwn gan yr ysgol drwy eu gweithgareddau codi arian, yn ogystal â chyllid grant Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru.