Gorffennaf 2025

02/07/2025

Canfod tegeirian hardd mewn dôl blodau gwyllt yn Ninbych

Mae tegeirian yn dwyllodrus o gryf diolch i brosiect bioamrywiaeth cefnogol.

Mae Tegeirianau Gwenynog ar gynnydd mewn dôl blodau gwyllt yn Ninbych am y tro cyntaf gan dîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych. 

Darganfuwyd y tegeirianau newydd gan y tîm yn ystod arolwg o ddolydd lleol yn yr ardal er mwyn asesu sut roedd rhywogaethau yn ffynnu yn ystod y tymor tyfu.

Mae ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn helpu ac yn amddiffyn natur lleol ac yn cefnogi lles cymunedol ar draws y Sir.  Llywodraeth Cymru sydd yn ariannu’r prosiect drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Yn ystod tymor 2024, cofnodwyd 297 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt ar y safleoedd hyn a chyfanswm o 5,269 o flodau unigol, llawer iawn mwy nag sy’n tyfu mewn caeau lle torrir y gwair yn gyson.

Gwelwyd tegeirianau’n tyfu am y tro cyntaf erioed mewn nifer o ddolydd blodau gwyllt ledled y sir.

Mae atgyfodiad y tegeirianau yma’n parhau yn 2025 yn sgil gwaith y prosiect. 

Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Fe wnaethom ni ddarganfod tegeirianau gwenynog mewn dôl yn Ninbych yn ddiweddar, mae’r tegeirianau bychan yma’n edrych fel gwenyn yn gorffwys, mae ganddynt fymryn o flew ac maent hyd yn oed yn cynhyrchu arogl sy’n debyg i wenynen fenywaidd, gan greu’r twyll perffaith i ddenu gwenyn gwrywaidd i beillio yn y ddôl yma! 

“Yn ogystal â hynny, mae’n wych i ddenu ystod o loÿnnod byw a gwyfynod a fydd wir yn rhoi hwb i weithgaredd y ddôl yma hefyd.

“Rydym ni’n darganfod bod tegeirianau yn parhau i atgyfodi ym mhob un o’n dolydd ar gyfer 2025, rydym ni hefyd wedi lleoli llawer o degeirianau pigfain ar draws ein safleoedd ac mae’r tîm wedi canfod tegeirian brych cyffredin ym Modelwyddan.”

“Dim ond mewn safleoedd arfordirol yr arferai tegeirianau pigfain gael eu canfod yn 2023, ond y llynedd, fe welsom ni un yn Rhuthun ac rydym ni bellach wedi canfod mwy yn fewndirol sy’n dangos bod y dolydd sydd gennym yn gweithio fel ffordd i drychfilod ac anifeiliaid ar draws y sir i helpu i ailboblogi’r safleoedd yma drwy gario hadau o un i’r llall.”

“Mae tegeirianau yn cynhyrchu hadau sy’n eithriadol o fach (hefyd yn cael eu galw’n hadau llwch). Mae’n rhaid i’r hadau yma ddod i gysylltiad gyda math arbennig o ffyngau mycorhisol a fydd yn helpu hadau’r tegeirian i egino a’i gynorthwyo i dyfu’n fuan.  Mae pob tegeirian yn tueddu i gael ffwng mycorhisol penodol y mae’n paru ag o, felly oni bai bod amodau’r pridd yn iawn ar gyfer y ffwng, ni fyddwn ni’n cael tegeirianau.  Mae gweld y planhigion bach yma ar y safle yn nodi ein bod yn anelu i’r cyfeiriad cywir, ac mae’r dolydd yn parhau ar eu siwrnai tuag at adferiad.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’n wych bod hyn wedi cael ei ganfod ar y safle yn Ninbych ac mae’n dangos wrth i’n dolydd aeddfedu maen nhw’n dod yn rhan hollbwysig yn darparu cefnogaeth ar gyfer natur sydd wedi dioddef oherwydd effaith newid hinsawdd.

“Wrth i fwy o flodau gwyllt megis tegeirianau ddychwelyd i safleoedd, byddant yn helpu i ychwanegu amrywiaeth a lliw yn ein safleoedd i’r gymuned ei fwynhau, ynghyd â’r peillwyr sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.”

 

 

 

Comments