23/10/2025
Ailagor Ardal Chwarae Ddinbych ar ei Newydd-wedd

Mae ardal chwarae Dinbych wedi ailagor i’r cyhoedd ar ei newydd-wedd.
Mae ieuenctid Dinbych a staff Cyngor Sir Dinbych a Chynghorwyr lleol, yn dathlu ailagor maes chwarae Parc Isaf heddiw yn dilyn cyfnod o waith gwella ar y safle.
Gwasanaethau Stryd y Cyngor sydd wedi bod yn rheoli’r prosiectau ar ôl sicrhau cyllid grant drwy Gynllun Swm Cymudol Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus.
Roedd y gwaith gwella’n cynnwys gosod cyfarpar chwarae hygyrch a synhwyraidd ac wedi’i ddylunio i alluogi plant o bob gallu i chwarae gyda’i gilydd.
Mae’r datblygiad hwn hefyd yn ceisio cynyddu a gwella hygyrchedd i gyfarpar chwarae presennol a newydd.
Mae rhagor o gyfleoedd chwarae i blant drwy ychwanegu chwarae lefel isel, synhwyraidd, botymog, chwarae cymdeithasol, chwarae cystadleuol, troelli unigol, siglo â chefnogaeth, siglo cymdeithasol a chwarae rhyngweithiol.

Bu disgyblion o Ysgol Plas Brondyffryn sy’n rhan o Sgwad Senedd yr ysgol yn helpu gyda’r dathliadau ailagor drwy dorri’r rhuban cyn treulio amser yn edrych ar yr offer newydd yn yr ardal chwarae.
Meddai’r Cydlynydd Ardal Gwasanaethau Stryd, Neil Jones: “Rydym yn falch iawn o ganlyniadau’r gwaith gwella yn yr ardal chwarae hon yn Ninbych, bydd yn helpu i gefnogi plant lleol o bob oed o ran eu hiechyd a lles. Mae’r gwaith gorffenedig yn wych, a bydd y cyfarpar newydd yn rhoi bywyd newydd i’r parc ar gyfer y plant."
Cwblhawyd y gwaith gan KOMPAN UK sydd ar hyn o bryd yn datblygu safleoedd chwarae yn y Parc Drifft a Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.
Dywedodd llefarydd ar ran Kompan UK: “Rydym ni’n eithriadol o falch o’r Ardal Chwarae ym Mharc Isaf, Dinbych, a gobeithio bod y gymuned leol wrth eu boddau fel yr ydym ni, ac y byddant yn mwynhau chwarae, cymdeithasu a bod yn heini gyda’i gilydd am flynyddoedd i ddod.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych gweld bod y safle hwn wedi ailagor ac mae wedi bod yn brosiect gwych i helpu lles yr holl blant sy’n byw o amgylch y parc a thu hwnt."