03/10/2025
Cwblhau gwaith adeiladu yn ardal chwarae Marchnad y Frenhines
Mae prosiect yr ardal chwarae ym Marchnad y Frenhines yn y Rhyl wedi'i gwblhau. Disgwylir i'r parc agor wythnos nesaf.

Mae'r ardal chwarae gynhwysol yn cynnwys mwy nag 20 o nodweddion chwarae, ac mae lle i dros 40 o ddefnyddwyr ar unrhyw adeg benodol. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer plant 0-10+ oed, ac mae'r ardal chwarae yn cynnwys byrddau chwarae rhyngweithiol, synhwyraidd a chyffyrddol.
O ystyried ei lleoliad, mae gan yr ardal chwarae themâu bwyd a diod, ac mae thema ‘caffi’ a ‘hufen iâ’ wedi’u hymgorffori yn rhai o’r offer chwarae.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r ardal chwarae newydd hon yn ased enfawr, ac mae’n gwella’r hyn sydd ar gael i deuluoedd yn barod yn lleoliad Marchnad y Frenhines.
Mae’r ardal chwarae newydd yn gynhwysol ac yn llawn nodweddion chwarae hwyliog, mae’r tu allan i'r lleoliad ac mae’n ychwanegu at yr ardaloedd chwarae sydd ar gael yn yr ardal gan fod dau erbyn hyn wedi'u lleoli ar hyd y prom sydd wedi ailagor a'i ail-lunio yn y Rhyl.
Mae Marchnad y Frenhines yn lleoliad gwych i deuluoedd, ac mae'n arbennig gweld bod y gwaith adeiladu ar yr ychwanegiad diweddaraf hwn i'r lleoliad bellach wedi'i gwblhau.”
Dywedodd llefarydd ar ran KOMPAN UK:
“Mae KOMPAN UK yn falch o ddweud bod y cyfnod gosod offer bellach wedi’i gwblhau, yn ogystal â’r arwyneb diogelwch newydd a osodwyd ar gyfer yr offer a’r ffens newydd i fynd o amgylch yr ardal chwarae a’i diffinio. Rydym ni’n hynod o falch gyda pha mor dda mae'r cyfnod gosod wedi mynd.
Rydym ni’n gobeithio y bydd y cyhoedd yn mwynhau'r ardal chwarae ac yn ei hystyried yn ased gwych newydd i Farchnad y Frenhines!”