Hydref 2025

08/10/2025

Llwybr Lles yn cymryd y camau cyntaf

Mae cerddwyr wedi rhoi eu hesgidiau cerdded ymlaen i helpu i lansio menter lles newydd yn Ninbych.

Mae Llwybr Cerdded Lles newydd wedi’i lansio yn Ninbych Isaf yr wythnos hon. 

Wedi’i reoli gan y Gwasanaethau Stryd, cymerodd y prosiect ei gamau cyntaf diolch i sicrhau cyllid grant drwy’r Cynllun Swm Gohiriedig Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus.

Mae’r llwybr ar draws Dinbych Isaf a Dinbych Canolog yn cynnwys chwech o fannau stopio allweddol lle gall pobl gymryd seibiant ar feinciau cyfeillgarwch newydd sydd wedi’u creu yng Nghynnyrch Coed Meifod sydd wedi’i leoli ar Stad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych.

Mae pob mainc yn cynnwys cod QR sydd wedi’i ysgrythu lle gall cerddwyr eu sganio i fynd i dudalen we sy’n rhoi gwybodaeth iddynt am y natur o amgylch lle maent yn eistedd.

Mae’r Llwybr Cerdded Lles wedi’i ddylunio i wella’r profiad i ymwelwyr mewn lleoliadau allweddol, sy’n ganolog i Sir Ddinbych ac annog pobl i ymfalchïo yn eu mannau gwyrdd, gan wella dealltwriaeth am werth bioamrywiaeth a chadwraeth yr ardaloedd yma a’u gwneud yn hygyrch i bob oed.

I ddathlu'r lansiad, ymunodd cynrychiolwyr o Feifod ac aelodau lleol â'r Gwasanaethau Stryd.

Meddai’r Cydlynydd Ardal Gwasanaethau Stryd, Neil Jones: “Mae wedi bod yn wych cynnal y prosiect hwn gan fod gofalu am eich lles mor bwysig yn yr oes sydd ohoni.  Gall unrhyw un fynd o amgylch y llwybr y gallwch ddod o hyd iddo ar-lein, gallwch ddechrau ar unrhyw un o’r chwe lleoliad neu hyd yn oed defnyddio rhan ohono, eich dewis chi ydyw.

“Mae Meifod wedi gwneud gwaith gwych o ran integreiddio’r codau QR ar y meinciau i’r wybodaeth ar-lein ac rwy’n ddiolchgar hefyd i Dîm y We’r Cyngor am helpu i gynnal y prosiect hwn, a fydd gobeithio, y cyntaf o lawer o deithiau cerdded lles. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Dyma brosiect gwych i Ddinbych a’r dalgylch ac mae’n wych i gefnogi iechyd preswylwyr o bob oedran, ochr yn ochr â thynnu sylw at y fioamrywiaeth wych sydd o amgylch y cymunedau lleol hyn.”

I weld y llwybr, ewch i – Taith Gerdded Lles: Dinbych Isaf

Comments