Hydref 2025

06/10/2025

Pwll hydrotherapi wedi ei osod mewn ysgol yn Y Rhyl

Fe fu cam mawr ymlaen yn ddiweddar o ran prosiect y pwll hydrotherapi yn Ysgol Tir Morfa Y Rhyl gyda'r broses o osod y pwll yn y cyfleuster nawr wedi’i gwblhau. Mae’r Pwll Hydrotherapi arbenigol 19 troedfedd wedi ei leoli ar dir yr ysgol mewn adeilad ar ei ben ei hun.

Fe gychwynnodd y prosiect, sydd wedi ei ddylunio gan dîm pensaernïaeth mewnol y Cyngor, yn gynharach yn y flwyddyn a bydd y cyfleuster newydd yn dod â darpariaeth Hydrotherapi o’r radd flaenaf i’r ysgol, y ddarpariaeth gyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych. Mae’r prif strwythur craidd nawr wedi ei gwblhau, gyda gwaith ar y to wedi ei gwblhau ym mis Awst.

Mae’r pwll ei hun nawr wedi ei osod, a bydd profi yn cychwyn yn y cyfleuster.

Ar ôl ei gwblhau, bydd yr adeilad yn cynnwys paneli solar ac inswleiddiad effeithlon o ran ynni, gan helpu’r cyfleuster i leihau ei ôl-troed carbon a lleihau costau ynni ar yr un pryd. Bydd yr adeilad hefyd yn cael ei wresogi drwy wres o dan y llawr.

Dywedodd Susan Roberts, Pennaeth Ysgol Tir Morfa:

"Rydym wrth ein bodd yn gweld bod y brif strwythur ein Pwll Hydrotherapi newydd ni bron a gorffen.

Bydd y cyfleuster gwych hwn yn rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i'n disgyblion ar gyfer eu datblygiad corfforol a'u lles cyffredinol.

Allwn ni ddim aros i weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar draws cymuned ein hysgol."

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’r prosiect hwn yn dod â darpariaeth unigryw a gwerthfawr i’r ysgol, sydd y ddarpariaeth gyntaf o’i fath yn Sir Ddinbych.

Mae’r gwaith wedi dod ymlaen yn dda dros yr haf.

Rwy’n llawn cyffro o weld y cyfleuster hwn yn agor, mae’n brosiect hynod o gyffrous a phwysig i Ysgol Tir Morfa, ac mae wedi cymryd blynyddoedd i’w greu.”

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan yr ysgol trwy eu gweithgareddau codi arian, yn ogystal â chyllid grant Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru.

Comments