Hydref 2025

23/10/2025

Preswylwyr Ifanc yn Ennill Llyfrau gyda Delweddau Caru Gwenyn

Mae dau breswylydd ifanc wedi ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth Dolydd Blodau Gwyllt 2025 Cyngor Sir Ddinbych.

Gofynnwyd i ddisgyblion Sir Ddinbych fynd ati i dynnu llun ar un o'n dolydd blodau gwyllt, dôl ysgol neu safle gwarchodfa natur gymunedol. Gallai fod yn llun o'r safle cyfan neu o ddarn bychan bach ohono, fel pryfyn neu flodyn – beth bynnag sy'n gwneud y llun gorau.

Tynnodd Elis o Ysgol Esgob Morgan lun o gardwenynen ar ysgallen yng Nghysgodfa Dinbych. Tynnodd Wynter, sydd ym mlwyddyn 5 yn Ysgol Bryn Hedydd, lun o gacynen cynffon lwydfelyn ar flodau melyn.

Bydd Elis ac Wynter yn derbyn pecyn o lyfrau amgylcheddol ar gyfer eu hysgolion, ynghyd â lluniau cynfas o’u lluniau i’w hongian gartref neu yn yr ysgol.

Un o gamau gweithredu cyntaf y Cyngor ar ôl datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol oedd dechrau rheoli glaswelltiroedd i greu dolydd blodau gwyllt. Nod y prosiect yw adfer ac ehangu’r cynefinoedd sydd ar gael yn y sir i bryfed peillio a bywyd gwyllt. Mae’r prosiect hefyd yn dod â llawer o fanteision neu ‘wasanaethau ecosystem’ i drigolion y sir, fel llai o lifogydd, gwell ansawdd aer ac oeri’r aer.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffem longyfarch Elis ac Wynter am eu delweddau hyfryd a diolch i’r holl ddisgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Mae ein prosiect dolydd blodau gwyllt yn cynyddu bywyd pryfed ar hyd a lled y sir, gan ddod a buddion i bobl leol hefyd fel lleihau perygl llifogydd ac oeri’r aer.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Mae bod allan ym myd natur yn ffordd wych i blant a phobl ifanc gefnogi eu hiechyd corfforol a meddyliol, a dysgu am yr amgylchedd naturiol yr un pryd. Mae gwenyn yn chwarae rôl bwysig i gefnogi bywydau anifeiliaid a phobl, drwy beillio cnydau bwyd a choed. Mae Elis ac Wynter wedi adnabod dwy rywogaeth wahanol o wenyn yn eu delweddau, a gyda 250 o rywogaethau gwenyn brodorol yn y DU mae yna lawer o rai eraill i ddisgyblion eu hadnabod hefyd.”

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal y gystadleuaeth eto yn y gwanwyn/haf.

 

 

Comments