22/10/2025
Cynnal fforwm twristiaeth llwyddiannus yn Llangollen
Cynhaliwyd Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych ddydd Mercher, 15 Hydref yng Ngwesty'r Wild Pheasant yn Llangollen pan fu cyfle gwych i dros 120 o gynrychiolwyr glywed am y datblygiadau diweddaraf a chwrdd â busnesau eraill i rannu profiadau.

Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Lucy von Weber, Pennaeth Marchnata Croeso Cymru, a siaradodd am y sefyllfa dwristiaeth gyfredol yng Nghymru a rhoi mewnwelediad o ble mae ymwelwyr yn dod. Rhoddodd Gail Swan, adeirydd Grŵp Bwyd a Diod Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, gyflwyniad yn amlinellu gwaith y grŵp a'r hyn y gall ei gynnig i fusnesau. Roedd siaradwyr eraill yn cynnwys Catrin Roberts, Pennaeth Gwasanaeth o Gyngor Sir Ddinbych a'r Cynghorydd Alan James, aelod arweiniol y sir dros dwristiaeth. Roedd hefyd sawl stondin wybodaeth gan gynnwys cerbyd o Reilffordd Llangollen i fynychwyr fwrw golwg arnynt wrth rwydweithio.
Daeth y Fforwm i ben gyda thrafodaeth frwd am y Dreth Ymwelwyr arfaethedig yng Nghymru dan arweiniad Catrin Roberts. Er nad oes gan Gyngor Sir Dinbych safbwynt ffurfiol eto ar y Dreth arfaethedig, roedd cyfle gwerthfawr yn y Fforwm i glywed barn ac ymatebion gan fusnesau twristiaeth yn y sir.
Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfannau Sir Ddinbych: “Mae Sir Ddinbych yn llawn tirweddau ysblennydd, treftadaeth gyfoethog, cymunedau bywiog, a lletygarwch cynnes — mae ganddi gymaint i’w gynnig i ymwelwyr heddiw ac i’r dyfodol. Mae refeniw twristiaeth hefyd yn rhan fawr o dwf economaidd y sir ac roedd yn dda cael sgyrsiau a fydd yn helpu i lunio dyfodol twristiaeth Sir Ddinbych.”
Wrth gloi’r fforwm, dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu a Chynllunio Lleol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros dwristiaeth, “Hoffwn ddiolch i bawb a fynychodd am eu hegni, eu mewnwelediad, a’u hangerdd dros ddyfodol twristiaeth yn Sir Ddinbych. Bydd y sgyrsiau, y cysylltiadau a’r syniadau yn helpu i lunio dyfodol twristiaeth ein sir.
“Gadewch i ni adael wedi’n hysbrydoli â syniadau i dyfu’n gamau gweithredu go iawn sy’n dod â thwf cynaliadwy, ymgysylltiad dyfnach ag ymwelwyr, a llawenydd i bobl leol a gwesteion.”
Mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn economi Sir Ddinbych, gyda chyfanswm effaith economaidd yn 2024 o £767 miliwn, cynnydd o 4.2% ar 2023. Mae nifer yr ymwelwyr yn 6.35 miliwn ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Sir Ddinbych, gan gyflogi dros 6,000 o weithwyr llawn amser.
Os hoffech gael gwybod am unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol neu dderbyn cylchlythyrau ynghylch y datblygiadau twristiaeth diweddaraf, anfonwch e-bost at tourism@denbighshire.gov.uk
